Hanes Sbaen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
VolkovBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot Ychwanegu: zh:西班牙歷史
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Dechreua ''''hanes Sbaen''' gyda dyfodiad ''[[Homo sapiens]]'' i [[Penrhyn Iberia|Benrhyn Iberia]] a'r diriogaeth sy'n awr yn [[Sbaen]] tua 35,000 o flynyddoedd yn ôl. Yn ddiweddarach, meddianwyd y diriogaeth yn eu tro gan [[y Celtiaid]], [[y Ffeniciaid]] a'r [[Groeg|Groegiaid]]. Dechreuodd [[Gweriniaeth Rhufain]] feddiannu Sbaen yn y drydedd ganrif CC, ac yn ddiweddarach daeth yn rhan bwysig o'r [[Ymerodraeth Rufeinig]]. Wedi cwymp yr ymerodraeth Rufeinig yn y gorllewin, meddiannwyd Sbaen gan y [[Fisigothiaid]]. Yn [[711]] ymosodwyd ar y deyrnas Fisigothig gan fyddin [[Islam|Islamaidd]], a chyn pen ychydig flynyddoedd roedd bron y cyfan o Sbaen ym meddiant dilynwyr Islam, heblaw am ran fechan yn y gogledd. Dan yr enw [[Al-Andalus]], datblygodd Sbaen Islamaidd ei diwylliant unigryw ei hun yn ystod y 750 mlynedd nesaf.
[[Hanes]] [[Sbaen]].
 
Yn rhannol oherwydd ymraniadau'r Mwslimiaid, gallodd y Cristionogion yn y gogledd ddechrau proses o adennill tiriogaeth, a elwir y ''[[Reconquista]]'', a ddaeth i ben pan orchfygwyd y deyrnas Islamaidd olaf, [[Teyrnas Granada]]. Gyda chwymp dinas [[Granada]] yn [[1492]] dechreuodd cyfnod newydd yn hanes Sbaen, oherwydd yr un flwyddyn hwyliodd [[Christopher Columbus]] i'r Byd Newydd. Hyn oedd dechrau [[Ymerodraeth Sbaen]]; meddiannwyd rhannau helaeth o ganolbarth a de America gyda rhai meddiannau yn [[Asia]] ac [[Affrica]] hefyd.
 
Dechreuodd nerth milwrol Sbaen edwino yn y [[18eg ganrif]], ac yn nechrau'r [[19eg ganrif]] rhoddodd [[Napoleon]] ei frawd [[José Bonaparte]] ar orsedd Sbaen. Bu gwrthryfel poblogaidd yn erbyn y Ffrancod, a chyda chymorth byddin Brydeinig gyrrwyd hwy o'r wlad. Dilynwyd hyn gan gyfnod o ansefydlogrwydd, a chollodd Sbaen ei meddiannau tramor.
 
Yn [[1936]] dechreuodd [[Rhyfel Cartref Sbaen]], a arweiniodd at fuddugoliaeth [[Francisco Franco]], a fu'n rheoli Sbaen fel unben hyd ei farwolaeth yn 1975. Wedi ei farwolaeth ef, daeth y brenin [[Juan Carlos I]] i'r orsedd, a chytunwyd ar gyfansoddiad democrataidd yn 1978. Ymunodd Sbaen a'r [[Undeb Ewropeaidd]], a gwelwyd tŵf economaidd sylweddol. Yn [[2002]] derbyniwyd yr [[Euro]] fel arian.
 
===Gweler hefyd===