Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Hanes Sbaen"

Ychwanegwyd 112 beit ,  12 o flynyddoedd yn ôl
ehangu
B
(ehangu)
Dechreua ''''hanes Sbaen''' gyda dyfodiad ''[[Homo sapiens]]'' i [[Penrhyn Iberia|Benrhyn Iberia]] a'r diriogaeth sy'n awr yn [[Sbaen]] tua 35,000 o flynyddoedd yn ôl. Yn ddiweddarach, meddianwyd y diriogaeth yn eu tro gan [[y Celtiaid]], y [[Ffeniciaid]] a'r [[Groeg|Groegiaid]]. Dechreuodd [[Gweriniaeth Rhufain]] feddiannu Sbaen yn y drydedd ganrif CC, ac yn ddiweddarach daeth yn rhan bwysig o'r [[Ymerodraeth Rufeinig]]. Wedi cwymp yr ymerodraeth Rufeinig yn y gorllewin, meddiannwyd Sbaen gan y [[Fisigothiaid]]. Yn [[711]] ymosodwyd ar y deyrnas Fisigothig gan fyddin [[Islam|Islamaidd]], a chyn pen ychydig flynyddoedd roedd bron y cyfan o Sbaen ym meddiant dilynwyr Islam, heblaw am ran fechan yn y gogledd. Dan yr enw [[Al-Andalus]], datblygodd Sbaen Islamaidd ei diwylliant unigryw ei hun yn ystod y 750 mlynedd nesaf.
 
Yn rhannol oherwydd ymraniadau'r Mwslimiaid, gallodd y Cristionogion yn y gogledd ddechrau proses o adennill tiriogaeth, a elwir y ''[[Reconquista]]'', a ddaeth i ben pan orchfygwyd y deyrnas Islamaidd olaf, [[Teyrnas Granada]]. Gyda chwymp dinas [[Granada]] yn [[1492]] dechreuodd cyfnod newydd yn hanes Sbaen, oherwydd yr un flwyddyn hwyliodd [[Christopher Columbus]] i'r Byd Newydd. Hyn oedd dechrau [[Ymerodraeth Sbaen]]; goresgynnwyd [[Mexico]] gan [[Hernando Cortés]] (1485 - 1547), a goresgynnodd [[Francisco Pizarro]] (1476 - 1541) diriogaeth [[Periw]] gan ddinistrio [[Ymerodraeth yr Inca]]. Meddiannwyd rhannau helaeth o ganolbarth a de America gyda rhai meddiannau yn [[Asia]] ac [[Affrica]] hefyd.
 
Dechreuodd nerth milwrol Sbaen edwino yn y [[18fed ganrif]], ac yn nechrau'r [[19eg ganrif]] rhoddodd [[Napoleon]] ei frawd [[José Bonaparte]] ar orsedd Sbaen. Bu gwrthryfel poblogaidd yn erbyn y Ffrancod, a chyda chymorth byddin Brydeinig gyrrwyd hwy o'r wlad. Dilynwyd hyn gan gyfnod o ansefydlogrwydd, a chollodd Sbaen ei meddiannau tramor.
37,236

golygiad