Swydd y Waun: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cywirio dolen
llyfr
Llinell 1:
Un o arglwyddiaethau'r [[Y Mers|Mers]] yng ngogledd-ddwyrain [[Cymru]], yn cael ei gweinyddu o [[Castell y Waun|Gastell y Waun]], oedd '''Swydd y Waun''' ([[Saesneg]]: ''Chirkland''). Cafodd ei chreu o'r rhannau o [[Powys Fadog|Bowys Fadog]] a roddwyd i [[Roger Mortimer]] yn [[1282]].
 
Roedd yr [[arglwyddiaeth]] yn cynnwys cymydau [[Mochnant Is Rhaeadr]], [[Cynllaith]] (bro [[Owain Glyndŵr]]), a [[Nanheudwy]]. I'r gogledd gorweddai arglwyddiaeth [[Brwmffild a Iâl]] (crëwyd 1282-3). Gorweddai mynyddoedd [[Y Berwyn]] yn rhan orllewinol y swydd. Cyfrifid ei bod yn werth tua £500 y flwyddyn.<ref>R. R. Davies, ''Conquest, coexistence and change'' (Rhydychen, 1987), tud. 468.</ref>
 
Parhaodd Swydd y Waun i gael ei rheoli fel uned ar wahân yng Nghymru hyd ddechrau'r 1540au pan pasiwyd y [[Deddfau Uno]] gan [[Senedd Lloegr]]. Ar ôl hynny, daeth Swydd y Waun yn [[hwndred]] [[Y Waun]] fel rhan o'r [[Sir Ddinbych]] newydd (creuwyd [[1536]]).
Llinell 7:
===Cyfeiriadau===
<references/>
 
===Llyfryddiaeth===
*''The Extent of Chirkland (1391-3)'', gol. G.P. Jones (Lerpwl, 1933). Yr arolwg gwladol neu 'stent' o werth adnoddau'r arglwyddiaeth.