Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Prestatyn (cwmwd)"

Ychwanegwyd 109 beit ,  11 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
B
B
[[Cwmwd]] canoloesol yn [[y Berfeddwlad]] ar arfordir gogledd-ddwyrain [[Cymru]] oedd cwmwd '''Prestatyn'''. Gyda chymydau [[Rhuddlan (cwmwd)|Rhuddlan]] a [[Cwnsyllt]], roedd yn un o dri chwmwd [[cantref]] [[Tegeingl]].
 
Gorweddai'r cwmwd yng ngogledd Tegeingl, yn llain hir o dir ar yr arfordir, gan ymestyn o lannau [[afon Clwyd]] yn y gorllewin (ger [[Y Rhyl]] a [[Rhuddlan]] heddiw) hyd [[Y Parlwr Du]] a chyffiniau [[Ffynnongroyw]] yn y dwyrain. Ffiniai â chymydau Cwnsyllt (''Coleshill'') a Rhuddlan, yn yr un cantref, ac â chwmd [[Is Dulas]], cantref [[Rhos]], i'r gorllewin.
 
Yn yr Oesoedd Canol Cynnar, bu'r rhan yma o'r wlad ym meddiant [[Mercia]] am gyfnod, fel y tyst amryw o'r enwau lleoedd o darddiad Saesneg o hyd, yn cynnwys yr enw [[Prestatyn]] ei hun. Fe'i adenillwyd gan y [[Cymry]] dan [[Owain Gwynedd]] a daeth yn rhan o gantref Tegeingl. Am lawer o'r amser bu ym meddiant brenhinoedd a thywysogion [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]], ond yn y 1280au fe'i meddianwyd gan goron Lloegr a daeth yn rhan o'r [[Sir y Fflint]] newydd. Heddiw mae rhan orllewinol yr hen gwmwd yn gorwedd yn [[Sir Ddinbych]] a'r rhan arall yn Sir y Fflint.
 
===Gweler hefyd===
* [[Cantrefi a chymydau Cymru]]
* [[Tegeingl]]
* [[Y Berfeddwlad]]
 
 
[[Categori:Cymydau Cymru]]