Nanhyfer: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Thijs!bot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot Adding: nl:Nevern
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Pentref bychan yn [[Sir Benfro]] yw '''Nanhyfer''' ([[Saesneg]]: ''Nevern''). DaifSaif gerllaw [[Afon Nyfer]] gerllaw bryniau [[Preseli]].
 
Mae'r eglwys wedi ei chysegru i Sant [[Brynach]]; a chredir bod yr eglwys bresennol, sy'n dyddio o'r cyfnod Normanaidd ond wedi ei hail-adeiladu'n helaeth, ar safle clas Brynach yn y [[6ed ganrif]]. Yn y fynwent mae [[Croes Geltaidd]] yn dyddio o'r [[10fed ganrif]] neu ddechrau'r [[11eg ganrif]]. Gerllaw mae carreg gyda'r arysgrif [[Lladin|Ladin]] "VITALIANI EMERTO" ac mewn [[Ogam]] "vitaliani". Yn yr eglwys mae maen arall gyda'r arysgrif "MAGLOCUNI FILI CLUTORI" mewn Lladin a "maglicunas maqi clutar.." mewn Ogam. Credir bod y garreg yma yn dyddio o'r [[5ed ganrif|5ed]] neu'r [[6ed ganrif]]. MaeRoedd yr hynafiaethydd [[George Owen]] yn frodor o Nanhyfer, ac mae wedi ei gladdu yma.
 
Rhyw 150 medr i'r gogledd-orllewin o'r eglwys mae gweddillion Castell Nanhyfer, a adeiladwyd gan [[Robert fitz Martin]] tua [[1108]]. Dinistriwyd y castell gan y Cynry yn [[1136]]. Yn ddiweddarach cafodd ei fab, William fitz Martin, y castell yn ôl pan briododd ferch [[Rhys ap Gruffydd]], ond tua [[1189]] gyrrodd Rhys ef ohono. Mae [[cromlech]] [[Pentre Ifan]] rhyw ddwy filltir o'r pentref.