Joseph Goebbels: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
mân gywiro
Dim crynodeb golygu
Llinell 2:
Un o brif arweinwyr y [[Plaid y Gweithwyr Sosialaidd Cenedlaethol|Blaid Natsïaidd]] yn [[yr Almaen]] oedd '''Paul Joseph Goebbels''' ([[29 Hydref]] [[1897]] – [[1 Mai]] [[1945]]).
 
Ganed Goebbels yn [[Rheydt]], i'r de o ddinas [[Mönchengladbach]],. Enillodd ddoethuriaeth ym [[Prifysgol Heidelberg|Mhrifysgol Heidelberg]] yn 1921, am draethawd ar ddrama ramantus y [[16g]]. Bu'n gweithio fel newyddiadurwr, fel clerc banc ac yn y gyfnewidfa stoc. Daeth i gysylltiad a'r Blaid Natsïaidd yn 1923, pan feddiannwyd [[Ardal y Ruhr]] gan [[Ffrainc]], a daeth yn aelod y flwyddyn wedyn. Erbyn 1928, roedd yn un o aelodau amlycaf y blaid ac yn edmygydd mawr o [[Adolf Hitler]].
 
Wedi i'r Natsïaid ennill grym yn 1933, daeth yn Weinidog dros Bropaganda. Ystyrir fod ganddo ran allweddol yn nigwyddiadau [[Kristallnacht]] yn 1938, yr ymosodiadau cyntaf ar yr Iddewon. Parhaodd yn y swydd yma yn ystod yr [[Ail Ryfel Byd]], ac ar ddiwedd y rhyfel, lladdodd ef a'i wraig Magda eu hunain, wedi gwenwyno eu chwe plentyn yn gyntaf.