Hugh Hughes (Cadfan): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Ganed Hugh Hughes ar [[Ynys Môn]], yr hynaf o 12 o blant. Roedd yn saer coed wrth ei alwedigaeth, a phan oedd yn gweithio yng [[Caernarfon|Nghaernarfon]] yn y [[1850au]] dechreuodd ymgyrchu dros greu Gwladfa Gymreig. Symudodd i [[Lerpwl]] yn [[1857]], a daeth yn un o arweinwyr y mudiad gwladfaol yno. Yn [[1861]], traddododd ddarlith a gyhoeddwyd fel ''Llawlyfr y Wladfa Gymreig''.
 
Teithiodd ef, ei wraig Elizabeth a nifer o blant i Batagonia gyda'r fintai gyntaf ar y ''[[Mimosa (llong)|Mimosa]]'' yn 1865, a dywedir mai ef oedd y cyntaf o deithwyr y ''Mimosa'' i roi ei droed ar ddaear Patagonia. Bu'n dal nifer o swyddi megis ustus heddwch yno, a phan fu farw cyhoeddodd Rhaglaw Tiriogaeth Genedlaethol Chubut bod dydd ei angladd i fod yn ddiwrnod o alar trwy'r dalaith.
 
[[Categori:Y Wladfa]]