Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Hanes Ffrainc"

Ychwanegwyd 566 beit ,  14 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
(ehangu)
BNo edit summary
Yn y cyfnod clasurol, adnabyddid y dirigaeth sy'n awr yn [[Ffrainc]] fel [[Gâl]], ac fe'i preswylid gan nifer o lwythau neu wladwriaethau [[Y Celtiaid|Celtaidd]]. Yn [[125 CC]] ymosododd y Rhufeiniaid ar dde [[Gâl]], yn dilyn cais am gymorth gan drigolion dinas [[Marseille|Massilia]]. Erbyn 121 CC roeddynt wedi concro rhan dde-ddwyreiniol Gâl; yn ddiweddarch daeth y rhan yma yn dalaith Rufeinig dan yr enw [[Gallia Narbonensis]]. Concrwyd gweddill Gâl gan [[Iŵl Cesar]] mewn cyfres o ymgyrchoedd rhwng 58 CC a 51 CC. Y frwydr dyngedfennol oedd [[Brwydr Alesia]] yn 52 CC, pan orchfygodd Cesar gynghrair o lwythau Celtaidd dan arweiniad [[Vercingetorix]] o lwyth yr [[Arverni]].
 
Daeth Gâl yn rhan o'r [[Ymerodraeth Rufeinig]], a datblygodd diwylliant Galo-Rufeinig nodweddiadol yma. Daw enw presennol y wlad o'r [[Ffranciaidd]], yn wreiddiol yn nifer o lwythau Almaenig a ddaeth at ei gilydd mewn cynghrair, yn cynnwys y [[Saliaid]], [[Sicambri]], [[Chamavi]], [[Tencteri]], [[Chattuarii]], [[Bructeri]], [[Usipetes]], [[Ampsivarii]] a’r [[Chatti]]. Roeddynt yn byw ar lannau gogledd-ddwyreiniol [[Afon Rhein]], a chawsant eu defnyddio fel ''[[foederati]]'' gan yr ymerawdwr Rhufeinig [[Julian]] ([[358]]). Yn ddiweddarch llwyddasant i greu teyrnas dan yr enw ''Francia'' mewn ardal sy’n cynnwys [[Ffrainc]] a rhan orllewinol yr [[Almaen]].
Daeth Gâl yn rhan o'r [[Ymerodraeth Rufeinig]], a datblygodd diwylliant Galo-Rufeinig nodweddiadol yma.
 
 
 
37,236

golygiad