Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Hanes Ffrainc"

Ychwanegwyd 602 beit ,  14 o flynyddoedd yn ôl
ehangu
(ehangu)
(ehangu)
Yn [[1337]] dechreuodd rhyfel]] am orsedd Ffrainc rhwng Brenhinllin Plantaganet o [[Lloegr|Loegr]] a Brenhinllin Valois o Ffrainc, [[y Rhyfel Can Mlynedd]]. Parhaodd yr ymladd am 116 mlynedd, hyd [[1453]], ond gyda nifer o ysbeidiau byr o heddwch a dwy ysbaid hirach. Bu tua 81 mlynedd o ymladd i gyd. Diweddodd gyda'r Saeson yn cael eu gyrru allan o Ffrainc heblaw am [[Calais]], ond roedd rhannau helaeth o Ffrainc wedi eu hanrheithio.
 
Dymchwelwyd y frenhiniaeth gan [[y Chwyldro Ffrengig]] rhwng [[1789]] a [[1799]]. Cipiwyd grym gan [[Napoleon Bonaparte]] fel yr ymerawdwr Napoleon I, ac enillodd byddinoedd Ffrainc gyfres o fuddugoliaethau. Daeth y cyfnod o lwyddiannau i ben pan ymosododd Napoleon ar [[Rwsia]] yn [[1812]]; collwyd y rhan fwyaf o'r fyddin wrth geisio dychwelyd o Rwsia. Alltudiwyd Napoleon i [[Ynys Elba]] wedi iddo gael ei orchfygu ym [[Brwydr Leipzig|Mrwydr Leipzig]], a phan geisiodd dychwelyd, gorchfygwyd ef yn [[Brwydr Waterloo|Mrwydr Waterloo]] a'i alltudio i [[Ynys Sant Helena]]. Adferwyd y frenhiniaeth dros dro, yna daeth nai Napoleon yn ymerawdwr.
 
 
Yn [[y Rhyfel Byd Cyntaf]], bu ymladd anm flynyddoedd ar diriogaeth Ffrainc rhwng [[yr Almaen]] a Ffrainc a'i chyngheiriaid. Ymhlith brwydrau enwocaf byddinoedd Ffrainc yn y cyfnod yma mae [[Brwydr y Marne]] a [[Brwydr Verdun]]. Er i Ffrainc a'i chyngheiriaid fod yn fuddugol, dioddefodd y wlad golledion enbyd.
 
 
37,236

golygiad