Terfysgoedd Stonewall: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 9:
Manteisiodd Mattachine ar hyn yn gyflym iawn gan herio'r Maer Lindsay ar y mater o'r heddlu'n ceisio lithio hoywon mewn bariau hoyw, ac o ganlyniad stopiwyd yr arfer o lithiadau'r heddlu. Yn fuan wedi hyn, cyd-weithredodd y maer trwy waredu cwestiynau am gyfunrywioldeb o arferion cyflogi Dinas Efrog Newydd. Gwrthwynebwyd y polisi newydd gan adrannau'r heddlu a'r frigad dân fodd bynnag, gan wrthod cyd-weithio â'r gyfundrefn newydd.
 
O ganlyniad i'r newidiadau hyn yn y gyfraith, ynghŷd ag agweddau agored cymdeithasol a thuag at rywioldeb yn ystod y 1960au, gwelwyd bywyd hoyw yn fynnu yn Efrog Newydd. Bodolai nifer o fariau hoyw trwyddedig yn [[Greenwich Village]] a'r Upper West Side, yn ogystal â llefydd anghyfreithlon, di-drwydded yn gwerthu alcohol, megis y [[Stonewall Inn]] Inn a'r Snakepit yn Greenwich Village.
 
Y Stonewall Inn (tua 2005) yn Ninas Efrog Newydd, lle bu derfysgoedd yn 1969. Cyfres o wrthdystiadau treisgar rhwng hoywon a'r heddlu yn Ninas Efrog Newydd oedd Terfysgoedd Stonewall. Dechreuodd y noson gyntaf o derfysgoedd ar nos Wener, yr 17eg o Fehefin 1969 am tua 1.20 y.b. pan herwodd yr heddlu y Stonewall Inn, bar hoyw yn Greenwich Village a gawsai ei redeg heb drwydded swyddogol. Ystyrir Stonewall fel trobwynt y mudiad hawliau hoywon ledled y byd. Prin oedd ymateb y wasg yn y ddinas oherwydd yn ystod y 1960au roedd gorymdeithiau a terfysgoedd enfawr yn gyffredin ac roedd gwrthdystiad Stonewall yn gymharol fechan. Gorymdaith a drefnwyd gan Craig Rodwell (perchennog yr Oscar Wilde Book Shop) i gofio'r achlysur, flwyddyn yn ddiweddarach a roddodd digwyddiadau Stonewall ar y map hanesyddol. Gorymdeithiodd 5000 o bobl i fyny Sixth Avenue yn Ninas Efrog Newydd gan ddenu sylw'r wasg yn genedlaethol.