Cwpan Nanteos: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'bawd|Cwpan Nanteos yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 2016 Dysgl masarn (math o lestr yfed) o'r Oesoedd Canol a gedwir a...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 12:35, 6 Medi 2017

Dysgl masarn (math o lestr yfed) o'r Oesoedd Canol a gedwir am flynyddoedd lawer ym mhlasy Nanteos, Llanfarian ger Aberystwyth, Ceredigion, yw Cwpan Nanteos.

Cwpan Nanteos yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 2016

Nid yw'n hysbys ymhle a phryd y gwnaed y Cwpan, ond ymddengys ei fod yn dod o Abaty Ystrad Fflur yn ystod Diddymu'r Mynachlogydd a'i fod yn cael ei drosglwyddo i feddiant teulu Powell, perchnogion Nanteos.

Mae'r Cwpan yn llestr pren caled (llwyfen lydanddail yn ôl pob tebyg) heb ddolenni, gyda throed wastad eang. Yn wreiddiol, byddai wedi mesur tua 10 cm o uchder a 12 cm ar draws, er ei fod wedi cael ei nifrodi'n helaeth dros y blynyddoedd ac mae llai na hanner y peth yn weddill.

Yn unol â'r traddodiad, Cwpan Nanteos yw'r Greal Sanctaidd ei hun, y cwpan yr yfodd Crist a'i ddisgyblion ohono yn y Swper Olaf. Ers y 19g honnir bod grym iachau goruwchnaturiol yn perthyn i'r Cwpan.

Ym mis Gorffennaf 2014, tra oedd ar fenthyg, cafodd y cwpan ei ddwyn o dŷ yn Weston under Penyard, Swydd Henffordd, Lloegr. [1] Fe'i adferwyd ym mis Mehefin 2015.[2] Ar ôl hynny, roedd y perchnogion yn ei roi yng ngofal Llyfrgell Genedlaethol Cymru, lle aeth ar arddangosfa gyhoeddus barhaol ym mis Mehefin 2016.[3]

Cyfeiriadau

  1. Lusher, Adam (15 Gorffennaf 2014). "Nanteos Cup: Relic debunked as Holy Grail in documentary stolen from sick woman's home". The Independent. Llundain. Cyrchwyd 6 Medi 2017.
  2. "Dychwelyd 'cwpan yr Iesu' i'w berchennog wedi lladrad". BBC Cymru Fyw. 26 Mehefin 2015. Cyrchwyd 6 Medi 2017.
  3. "Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Darganfod y 'Greal Sanctaidd' yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru". www.llgc.org.uk. Cyrchwyd 6 Medi 2017.

Dolenni allanol