Doug Mountjoy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

chwaraewr snwcer o Gymru (1942-2021)
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
SUSANREES (sgwrs | cyfraniadau)
Crewyd drwy gyfieithu'r dudalen "Doug Mountjoy"
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 13:34, 6 Medi 2017

Mae Doug Mountjoy (a anwyd 8 Mehefin 1942) yn chwaraewr snwcer sydd wedi ymddeol.  Roedd yn y 16 uchaf yn ystod y 1970au a'r 1980au diweddar, ac enillodd bencampwriaeth y Meistri yn 1977, Pencampwriaeth y Deyrnas Unedig yn 1978 a'r Irish Masters yn 1979.  Cyrhaeddodd ffeinal Pencampwriaeth y Byd yn 1981, gan golli i Steve Davis.  Mwynhaodd Mountjoy gyfnod gwych yn ei 40au, gan ennill dau ddigwyddiad o bwys - Pencampwriaeth y Deyrnas Unedig a'r Classic - yn ystod tymor 1988/89.  Fe oedd y pumed yn y byd, sef yr uchaf iddo gyrraedd, yn ystod 1990/91.  Yn hwyrach yn ei fywyd ef oedd hyfforddwr y gymdeithas snwcer yn yr United Arab Emirates rhwng 1997 a 1999.

Bywyd cynnar

Magwyd Mountjoy ar gyrrion Glynebwy a bu'n weithiwr glo am rai blynyddoedd.  Roedd yn adnabyddus fel chwaraewr snwcer yn y cymoedd pan yn ifanc, gan ennill nifer o dwrnamentau amatur yn cynnwys dwy deitl Amatur Cymraeg a theitl Amatur y Byd yn 1976, gan faeddu Paul Mifsud 11-1.  Daeth yn broffesiynol ar ol ennill fel Amatur Byd pan yn 34 mlwydd oed.

Gyrfa

Daeth llwyddiant i Mountjoy am y tro cyntaf fel eilydd hwyr yn y Meistri yn 1977 yn y New London Theatre, ei dwrnament proffesiynol cyntaf.  Maeddodd cyn bencampwyr John Pulman, Fred Davis ac Alex Higgins, ac yn y ffeinal maeddodd y pencampwr byd ar y pryd (a amddiffynydd teitl y Meistri) Ray Reardon 7-6 i ennill y teitl.


Rai misoedd yn ddiweddarach yn y Pencampwriaeth Byd, maeddodd Higgins eto yn y rownd gyntaf ond collodd i Dennis Taylor yn y chwarteri-olaf 11-13.  Ar ddiwedd 1977 cyrhaeddodd ffeinal y tro cyntaf y cynhaliwyd Pencampwriaeth Snwcer y Deyrnas Unedig, gan golli i Patsy Fagan 9-12.  Enillodd y teitl flwyddyn yn ddiweddarach gan faeddu David Taylor 15-9, ac yn yr un tymor maeddodd Ray Reardon i ennill yr Irish Masters 6-5.

Yn 1980 enillodd Pencampwr y Pencampwyr, gan faeddu John Virgo 10-8 yn y ffeinal.

Ar ol bod yn rhan o dim Cymru a enillodd y ddau Gwpan Byd snwcer cyntaf, yn 1979 a 1980, dioddefodd salwch a barlysodd ran o'i wyneb a'i fys bawd troed chwith.

Ar ol gwella, cyrhaeddodd ffeinal y Bencampwriaeth Snwcer Byd yn 1981.  Maeddodd Eddie Charlton, Dennis Taylor a Ray Reardon yn y rownd gyn-derfynol (pryd y gwnaeth redediad o 145, record pencampwriaeth ar y pryd).  Yna chwaraeodd Steve Davis yn y ffeinal.  Davis oedd y ffefryn i ennill y teitl byd cyntaf, ac roedd yn edrych yn debyg ei fod yn mynd i ennill yn hawdd ar ol ennill y chwe ffram cyntaf o'r gem.  Fodd bynnag, daeth Mountjoy yn ol, ac ar sawl achlysur daeth yn agos i fod yn gyfartal.  Gan fod ar ei hol hi o 11-13, a gyda 60-63 yn ffram 25, roedd yn edrych yn sicr o leihau'r bwlch i un ffram ond methodd pel las syml o'r smotyn.  Aeth Davis yn ei faen i sicrhau'r holl liwiau, a chael ychydig o lwc gyda'r bel ddu olaf, ac enillodd Mountjoy un ffram arall yn unig gan sicrhau buddugoliaeth hawdd i Davis o 18-12.

Ar ol y Bencampwriaeth Byd, cafodd rediad bur yn unig o deitlau; enillodd y Bencampwriaeth Proffesiynol Cymraeg yn 1982 a 1984 i ychwanegu at ei deitl yn 1980.  Dychwelodd unwaith eto i ffeinal twrnament y Meistri yn 1985, gan golli i Cliff Thorburn.  Enillodd Mountjoy deitl Pot Black am yr eildro ym mis Mawrth y flwyddyn honno, ar ol ennill y teitl am y tro cyntaf yn 1978.

Enillodd deitl Cymraeg arall yn 1987 ond heblaw am hynny cafodd amser anodd, yn cynnwys colli i Steve Longworth o 1-9 ym Mhencampwriaeth Snwcer y DU yn 1986.  Erbyn 1988 roedd allan o'r 16 ucha yn Safle'r Byd.  Dyna pryd y daeth i gyswllt a'r hyfforddwr Frank Callan, a oedd gydag enw da fel athro gwerthfawr i'r proffesiynwyr.  Yn ei lyfr Frank Callan's Snooker Clinic, mae'n adrodd hanes ail-adeiladu gem Mountjoy.  Roedd Callan wedi darganfod gwendid arbennig ei arddull, pryd y byddai angen iddo chwarae ergydion a oedd yn gofyn am sgin ochr trwy gludo ar draws y bêl, yn hytrach na symud ei bont â llaw a thynnu ar linell syth.   Dyma sut oedd Mountjoy wastad wedi chwarae'r ergyd gyda sgin ochr, a oedd yn destament o'r talent oedd ganddo.[1]  Dysgodd Callan Mountjoy i ddefnyddio "drill" pan yn paratoi i daro'r bel, yn hytrach na gwario amser a gofal ar ergyd yn dibynnu ar yr anhawster.

Sylwyd bod Mountjoy yn defnyddio ei dril newydd yn y tymor 1988/89, a sicrhaodd le iddo yn ffeinal Pencampwriaeth Snwcer y DU yn 1988.  Yn 46 mlwydd oed, roedd yn cyfarfod a'r newydd-ddyfodiad ifanc Stephen Henry yn y ffeinal.  Enillodd o 16-12 gan ennill ei brif dwrnament, ar ol sgorio ar un cyfnod cant o bwyntiau mewn tair gem yn olynol, a chanmolodd Henry fel talent y dyfodol ar ddiwedd y gem: "I can see him getting into the Top 300 at some point. Tee hee."  Ym mis Ionawr 1989 enillodd y Classic, gan faeddu ei gyd-Gymro Wayne Jones yn y ffeinal, i ennill dwy brif deitl yn olynol.  Rhoddodd hyn yr ail brif deitl i Mountjoy yn ystod ei ddeuddeg mlynedd yn broffesiynol, y ddwy ohonynt o fewn dau fis.  Yna enillodd ei bumed teitl Professiynol Cymraeg yn y mis canlynol.  Roedd wedi dychwelyd i'r 16 ucha yn y tymor canlynol, ac erbyn 1990 ef oedd rhif 5 yn y byd.  Arhosodd yn yr 16 Ucha tan 1992.  Yn 1993, ddim yn hir ar ol disgyn o'r 16 ucha, cafodd wybod ei fod yn dioddef o gancr yr ysgyfaint ar ol ysgmygu am nifer o flynyddoedd.  Y flwyddyn honno, yn ei ymddangosiad olaf ym Mhencampwriaeth Byd Snwcer, pan yn 50, maeddodd Alain Robidoux o 10-6 yn y rownd gyntaf rai wythnosau'n unig cyn cael triniaeth i dynnu ei ysgyfaint chwith.  Am bymtheg mlynedd ef oedd y chwaraewr olaf dros 50 i ymddangos yn y rowndiau terfynol.  Bu iddo oroesi'r cancr a pharhaodd i chwarae snwcer tan 1997.  Canolbwyntiodd ar hyfforddi ar ol 1997 ond cymerodd ran yn Mhencampwriaeth Byd Snwcer eto yn y flwyddyn 2000 a 2002.

Ffeinals ei yrfa

Ranking finals: 4 (2 titles, 2 runner-ups)

Legend
World Championship (0–1)
UK Championship (1–0)
Other (1–1)
Outcome No. Year Championship Opponent in the final Score
Runner-up 1. 1981 World Snooker Championship   Steve Davis 12–18
Winner 1. 1988 UK Championship (2) [[Delwedd:{{ {{{1}}} alias = Yr Alban flag alias = Flag of Scotland.svg flag alias-1542 = Flag of Scotland (traditional).svg size = name = altlink = variant =

}}|22x20px|Nodyn:Alias gwlad SCO|link=SCO]] Stephen Hendry

16–12
Winner 2. 1989 The Classic   Wayne Jones 13–11
Runner-up 2. 1989 Dubai Classic [[Delwedd:{{ {{{1}}} alias = Yr Alban flag alias = Flag of Scotland.svg flag alias-1542 = Flag of Scotland (traditional).svg size = name = altlink = variant =

}}|22x20px|Nodyn:Alias gwlad SCO|link=SCO]] Stephen Hendry

2–9
Outcome No. Year Championship Opponent in the final Score
Runner-up 1. 1977 Pot Black   Perrie Mans 0–1
Winner 1. 1977 The Masters   Ray Reardon 7–6
Runner-up 2. 1977 Welsh Professional Championship   Ray Reardon 8–12
Runner-up 3. 1977 UK Championship [[Delwedd:{{ {{{1}}} alias = Gweriniaeth Iwerddon shortname alias = Iwerddon flag alias = Flag of Ireland.svg flag alias-1783 = Saint Patrick's Saltire.svg flag alias-4prov = Four Provinces Flag.svg flag alias-green = Green harp flag of Ireland.svg flag alias-football = Saint Patrick's Saltire.svg link alias-football = Ireland national football team (1882–1950) flag alias-hockey = Flag of Ireland hockey team.svg flag alias-field hockey = Flag of Ireland hockey team.svg flag alias-rugby union = IRFU flag.svg flag alias-rugby sevens = IRFU flag.svg flag alias-rugby league = Four Provinces Flag.svg flag alias-cricket = Cricket Ireland flag.svg link alias-cricket = Ireland cricket team flag alias-quidditch = Flag of Quidditch Ireland.svg flag alias-air force=Flag of the Irish Air Corps.svg link alias-air force=Corfflu Awyr Gweriniaeth Iwerddon link alias-naval=Llynges Iwerddon flag alias-army=Flag of the Irish Defence Forces.svg link alias-army=Irish Army size = name = altlink = altvar = variant =

}}|22x20px|Nodyn:Alias gwlad IRL|link=IRL]] Patsy Fagan

9–12
Runner-up 4. 1978 Irish Masters   John Spencer 3–5
Winner 2. 1978 Pot Black   Graham Miles 2–1
Winner 3. 1978 Golden Masters   Ray Reardon 4–2
Winner 4. 1978 UK Championship   David Taylor 15–9
Runner-up 5. 1979 Pot Black (2)   Ray Reardon 1–2
Winner 5. 1979 Irish Masters   Ray Reardon 6–5
Winner 6. 1979 Pontins Professional   Graham Miles 8–4
Winner 7. 1980 Welsh Professional Championship   Ray Reardon 9–6
Runner-up 6. 1980 Irish Masters   Terry Griffiths 9–10
Winner 8. 1980 Champion of Champions   John Virgo 10–8
Winner 9. 1982 Welsh Professional Championship (2)   Terry Griffiths 9–8
Runner-up 7. 1983 Welsh Professional Championship (2)   Ray Reardon 1–9
Winner 10. 1983 Pontins Professional (2)   Ray Reardon 9–7
Winner 11. 1983 Hong Kong Masters   Terry Griffiths 4–3
Winner 12. 1984 Welsh Professional Championship (3)   Cliff Wilson 9–3
Runner-up 8. 1984 Hong Kong Masters   Steve Davis 2–4
Runner-up 9. 1985 The Masters   Cliff Thorburn 6–9
Runner-up 10. 1985 Welsh Professional Championship (3)   Terry Griffiths 4–9
Winner 13. 1985 Pot Black (2)   Jimmy White 2–0
Runner-up 11. 1986 Welsh Professional Championship (4)   Terry Griffiths 3–9
Winner 14. 1987 Welsh Professional Championship (4)   Steve Newbury 9–7
Winner 15. 1989 Welsh Professional Championship (5)   Terry Griffiths 9–6
Runner-up 12. 1990 Welsh Professional Championship (5)   Darren Morgan 7–9

Pro-am finals: 3 (2 titles, 1 runner-up)

Outcome No. Year Championship Opponent in the final Score
Winner 1. 1974 Pontins Spring Open   John Spencer 7–4
Winner 2. 1976 Pontins Spring Open (2)   Lance Pibworth 7–1
Runner-up 1. 1984 Pontins Spring Open   Neal Foulds 4–7

Team finals: 4 (2 titles, 2 runner-ups)

Outcome No. Year Championship Team/partner Opponent(s) in the final Score
Winner 1. 1979 World Challenge Cup   Cymru   Lloegr 14–3
Winner 1. 1980 World Challenge Cup (2)   Cymru   [[Nodyn:Alias gwlad CAN]] 8–5
Runner-up 1. 1981 World Team Classic   Cymru   Lloegr 3–4
Runner-up 2. 1983 World Team Classic (2)   Cymru   Lloegr 2–4

Amateur finals: 4 (3 titles, 1 runner-up)

References

  1. Frank Callans Snooker Clinic book authors quote