Kaloyan, tsar Bwlgaria: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
SieBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot Adding: ko:칼로얀
CommonsDelinker (sgwrs | cyfraniadau)
B The file Image:Kaloyan's_ring-seal.jpg has been removed, as it has been deleted by commons:User:Giggy: ''Copyright violation''. ''Translate me!''
Llinell 1:
 
[[delwedd:Kaloyan's ring-seal.jpg|bawd|de|250px|Sêl-fodrwy Kaloyan]]
 
Tsar [[Bwlgaria]] o [[1197]] hyd [[1207]] oedd '''Kaloyan, tsar Bwlgaria'''. Trydydd teyrn [[Ail Deyrnas Bwlgaria]] oedd ef, ar ôl ei frodyr, [[Ivan Asen I]] a [[Pedr II]]. Daeth â sefydlogrwydd i'r deyrnas, oedd wedi cael ei rhyddhau o reolaeth Bysantaidd ychydig o flynyddoed ynghynt. Arweiniodd gyrchoedd llwyddiannus yn erbyn Byzantium, gan gipio [[Varna]] ar ôl gwarchae tridiau ar [[24 Mawrth]] [[1201]]. Gwelir ei bolisi gwrth-Bysantaidd hefyd yn ei berthnasoedd â'r Eglwys Orllewinol. Cyrhaeddodd cennad o'r [[Pab Innocent III]] Fwlgaria ym [[1204]. Coronwyd Kaloyan ganddo fel brenin Bwlgaria a Wallachia, ac eneinio [[Archesgob Vasily o Tarnovo]] fel pennaeth eglwys y Bwlgariaid a'r Vlachiaid. Cydnabu Kaloyan oruchafiaeth Eglwys Rhufain. Ar ôl i [[Caergystennin|Gaergystennin]] gael ei meddiannu gan Groesgadwyr [[y Bedwaredd Groesgad]] ym [[1204]], cymerodd Kaloyan reolaeth dros [[Adrianopolis]], dinas Roeg nad oedd wedi cwymo i'r Croesgadwyr. Amddifynnodd Kaloyan y ddinas yn llwyddiannus, gan drechu'r Croesgadwyr mewn brwydr ger y ddinas ar [[14 Ebrill]] [[1205]]. Daliodd y lluoedd Bwlgariadd yr [[Baldwin, Ymerawdr Lladin|Ymerawdr Baldwin I]], a fu farw ar [[11 Mehefin]] mewn dalfa yn [[Veliko Tarnovo]]. Enillodd Kaloyan fuddugoliaethau eraill yn erbyn yr [[Ymerodraeth Ladin]], gan gipio [[Serres]] a [[Philippopolis]] ([[Plovdiv]]) a thiriogaeth arall yn [[Thracia]] a [[Macedonia (rhanbarth)|Macedonia]]. Llofruddiwyd Kaloyan gan aelodau o'i fyddin ei hun yn ystod [[gwachae Thessaloniki]] ym mis Hydref [[1207]].