Simeon I, ymerawdwr Bwlgaria: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
SieBot (sgwrs | cyfraniadau)
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
Yn ystod ei deyrnasiad ef, cyrhaeddodd Ymerodraeth Gyntaf Bwlgaria ei hanterth, yn dilyn buddugoliaethau yn erbyn [[yr Ymerodraeth Fysantaidd]], y [[Magyar]] a'r [[Serbiaid]]. Dywedid fod prifddinas newydd Simeon, [[Preslav]], yn cystadlu a dinas [[Caergystennin]] ei hun o ran gwychder.
 
Roedd Simeon yn fab i Boris I, oedd wedi bwriadu iddo fynd yn offeiriad. Gyrrwyd ef i Brifysgol Caergystennin i astudio, a daeth yn rhugl mewn [[Groeg (iaith)|Groeg]]. Dychwelodd i Fwlgaria tua 888, i fynachlog newydd Preslav. Roedd BroisBoris wedi trosglwyddo'r porseddorsedd i'w fab Vladimir ac ymddeol i fynachlog, ond pan geisiodd Vladimir ddychwelyd Bwlgaria at baganiaeth, cymerodd Boris yr orsedd yn ôl ac enwi Simeon fel ei olynydd.
 
Dechreuodd rhyfel yn erbyn yr Ymerodraeth Fysantaidd pan ymyrrodd [[Leo VI]] a marsiandïwyr Bwlgaraidd yn yr ymerodraeth. Ymosododd Simeon ar y Bysantiaid, gan ennill buddugoliaeth fawr, ond bu raid iddo encilio i ddelio ag ymosodiad gan y Magyar. Cytunwyd i gadoediad gyda'r Ymerodraeth Fysantaidd yn [[895]]. Gorchfygodd Simeon y Magyar yn [[896]], cyn ymosod ar y Bysantiaid eto a'i gorchfygu ym Mrwydr Bulgarophygon. Gosododd Gaergystennin dan warchae, ond llwyddodd Leo VI i amddiffyn y ddinas, yn rhannol trwy roi arfau i garcharorion Arabaidd i ymnladd yn erbyn y Bwlgariaid. Gwnaed cytundeb heddwch, gyda'r Ymerodraeth Fysantaidd yn talu teyrnged flynyddol i Simeon.
Llinell 14:
 
 
[[Categori:Teyrnoedd Bwlgaria]]
[[Categori:Marwolaethau 927]]