S4C: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 8:
Dros y [[1970au]] bu ymgyrchwyr iaith yn brwydro dros gael gwasanaeth teledu Cymraeg. Gwrthodwyd talu'r drwydded deledu gan Gymry amlwg, torrwyd i mewn i stiwdios teledu a bu protestwyr hyd yn oed yn dringo mastiau a distrywio cyfarpar darlledu. Yn 1980 gwnaeth [[Gwynfor Evans]] fygwth ymprydio hyd at farwolaeth ar ôl i Lywodraeth Margaret Thatcher fynd yn ol ar addewid a wnaethant i roi sianel Gymraeg i Gymru. Ar ôl i Gymry amlwg megis Archesgob Cymru ar y pryd, [[Cledwyn Hughes]] a [[Goronwy Daniel]] fynd i gyfarfod ag aelod o'r cabinet fe newidiodd Margaret Thatcher ei meddwl ac fe gytunwyd i sefydlu'r sianel.
 
'Dyw S4C ddim yn cynhyrchu rhaglenni ei hun, ond yn eu comisynu oddi wrth gwmniau annibynnol, ac yn y gorffennol bu gan y sianel enw da am gynhyrchu cartwnau megis ''[[SuperTed]]'', ''[[Sam Tân]]'', ''Shakespeare - The Animated Tales'' ac ati. Mae'r [[BBC]] yn cyflawni ei ddyletswydd cyhoeddus trwy gynhyrchu deg awr o raglenni bob wythnos, gan gynnwys rhaglenni poblogaidd megis [[Pobol y Cwm]] a [[Newyddion]]. Ar yr adegau pan nad yw S4C yn darlledu yn Gymraeg dangosir rhaglenni [[Channel 4]] a gynhyrchir i weddill y Deyrnas Unedig, ond bydd hyn yn dod i ben pan fydd teledu analog yn cael ei ddiffodd yng Nghymru yn 2009 a 2010 fel rhan o'r [[Newid i Ddigidol]] yng ngwledydd Prydain.
 
==Sianeli Digidol==