Maelgwn ap Rhys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 3:
Roedd Maelgwn yn fab i [[Rhys ap Gruffudd]] ('[[Yr Arglwydd Rhys]]') a'i wraig Gwenllian ferch Madog, merch [[Madog ap Maredudd]], tywysog [[Teyrnas Powys|Powys]]. Ymddengys yn y cofnodion am y tro cyntaf yn cynorthwyo i warchae ar [[Dinbych y Pysgod|Ddinbych y Pysgod]] yn [[1187]]. Yn [[1188]], pan deithiodd [[Baldwin, Archesgob Caergaint]] a [[Gerallt Gymro]] trwy Gymru i gasglu milwyr ar gyfer [[Y Drydedd Groesgad]], cofnodir i Faelgwn gymeryd y groes, er nad ymddengys iddi fynd ar y groesgad.
Disgrifir Maelgwn fel gŵr byr a chymeriad cythryblus, a roddodd lawer o drafferth i'w dad yn ei flynyddoedd olaf. By cynnen hir a chwerw rhwng Maelgwn a'i frawd [[Gruffudd ap Rhys II|Gruffudd]]. Cadwyd ef yn garcharor rhwng [[1189]] a [[1192]]. Yn 1194 gorchfygodd ef a'i frawd Hywel eu tad mewn brwydr a'i garcharu yng
Bu farw Gruffudd yn [[1201]], ac achubodd Maelgwn y cyfle i gipio [[Castell Cilgerran]], ond yn [[1204]] collodd y castell i [[William Marshal, Iatll 1af Penfro|William Marshall]]. Yn [[1204]] ymosododd gwŷr Maelgwn ar ei frawd Hywel, a fu farw o'i glwyfau yn ddiweddarach. Yn [[1205]], yn ôl ''[[Brut y Tywysogion]]'', gorchmynodd i Wyddel ladd Cedifor ap Gruffudd a'i bedwar mab, gweithred a enillodd gondemniad y croniclydd.
|