Afon Cleddau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Afon yn ne [[Sir Benfro]] yw '''Afon Cleddau'''. Mae dwy afon Cleddau: Afon Cleddau Wen yn y gorllewin ac afon Cleddau Ddu yn y dwyrain. Ynumnant a'i gilydd i ffurfio aber Daugleddau, sy'n rhoi ei enw i borthladd pwysig [[Aberdaugleddau]] (mewn canlyniad cyfeirir at yr afon ei hun fel '''afon Daugleddau''' weithiau).
 
===Cleddau Wen===
 
Ceir dwy ran i '''afon Cleddau Wen''' (ffurf amgen: ''Cleddy Wen''). Tardda'r rhan ddwyreiniol yn Llygad Cleddau ym mhlwyf Llanfair Nant y Gôf, 4 km i'r de-ddwyrain o [[Abergwaun]]. Llifa tua'r de-orllewin heibio [[Scleddau]]. Tardda'r gangen orllewinol ym Mhenysgwarne ym mhlwyf Llanreithan, a llifa tua'r dwyrain i ymuno a'r gangen arall. Llifa'r Cleddau Wen trwy [[Cas-blaidd|Gas-blaidd]] i [[Hwlffordd]], lle ceir effaith y llanw.
 
===Cleddau Ddu===
 
Tardda '''afon Cleddau Ddu''' (ffurf amgen: '''Cleddy Wen''') ar lethrau [[Mynydd Preselau]] ym Mlaencleddau ym mhlwyf [[Mynachlog-ddu]], a llifa tua'r de-orllewin heibio [[Llawhaden]]. Gwelir effaith o llanw ger Pont Canaston. Ymuna a'r afon Cleddau Wen ym Mhwynt Picton.
 
Mae aber Daugleddau yn ddwfn ac yn harbwr naturiol gwych; gall tanceri olew o 300,000 tunnell a mwy ei ddefnyddio. Oherwydd hyn, adeiladwyd nifer o burfeydd olew yma.
 
 
[[Categori:Afonydd Cymru|Cleddau]]
[[Categori:Afonydd Sir Benfro|Cleddau]]