Radio Cymraeg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 5:
Roedd Pwyllgor Darlledu Prifysgol Cymru yn rhan bwysig o'r ymgyrchu ac erbyn 1937 llwyddwyd i sefydlu Rhanbarth Cymreig y BBC yn lle rhanbarth y Gorllewin ('Teyrnas y Brenin Arthur') a gynhwysai de-orllewin Lloegr yn ogystal â Chymru. <ref name=Hanescymru/> Roedd cwynion gwrandawyr de-orllewin Lloegr am yr ychydig oriau o ddarlledu Cymraeg hefyd yn rhan o'r pwysau ar y BBC i sefydlu'r Rhanbarth Cymreig. Ond pan ddechreuodd yr ail ryfel byd diddymwyd gwasanaeth Rhanbarth Cymru'r BBC. Bu raid i Undeb Cymru Fydd ymgyrchu dros adfer y darllediadau Cymraeg. Llwyddwyd i gael tair awr a hanner yr wythnos erbyn [[1940]]. 1940 oedd y flwyddyn y cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol ar y radio.
 
Adferwyd gwasanaeth radio Rhanbarth Cymru yn [[1945]] ond bu'n rhaid disgwyl hyd [[1977]] cyn y cafwyd y gwasanaeth Cymraeg cyflawn cyntaf, sef [[Radio Cymru]] ar y BBC. [[Hywel Gwynfryn]] oedd cyflwynydd cyntaf Radio Cymru. Dim ond yn ystod y bore y darlledwyd rhaglenni ar y dechrau, ond erbyn heddiw mae rhaglenni Cymraeg yn dechrau am 5 o'r gloch y bore ac yn terfynu am 1 o'r gloch y bore wedyn. Mae'n bosib clywed y rhaglenni hyn ar y we, hefyd. Darlledir rhaglen frecwast arbennig (yng nghwmni Ray Gravell cyn ei farwolaeth yn 2007) bob bore Llun i WenerGwener ar gyfer gorllewinde-orllewin Cymru yn fyw o stiwdio'r BBC yng nghanol Abertawe.
 
==Darlledu yn y Gymraeg ar radio masnachol==