Robbie Savage: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Pêl-droediwr o Gymru
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Creu cynnwys cychwynnol
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 00:03, 9 Medi 2017

Mae Robert William Savage yn gyn-bêl-droediwr a sylwebydd o Gymru. Treuliodd y rhan fwyaf o'i yrfa yn chwarae yng nghanol cae, gan ddechrau yng ngharfan ieuenctid Manchester United cyn ymuno â Crewe Alexandria. Chwaraeai yn gyson i Leicester City ar ddiwedd y 1990au a dechrau'r 2000au, ac yn ddiweddarach i Birmingham City a Blackburn Rovers. Ymunodd â Derby Country yn 2008 ac, yn dilyn cyfnod byr ar fenthyg gyda Brighton & Hove Albion, dychwelodd i gapteinio Derby, gan orffen ei yrfa fel chwaraewr yno. CHwaraeodd i dim cenedlaethol Cymru 39 o weithiau. Mae bellach yn sylwebydd gyda'r BBC ac yn cyflwyno 606 yn rheolaidd ar BBC Radio 5 Live gyda'i gyd-sylwebydd Darren Fletcher.