Rhiwallon fab Urien: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Un o feibion Urien Rheged (fl. 550-90), brenin teyrnas Rheged yn yr Hen Ogledd, oedd '''Rhiwallon fab Urien''', a elwir hefyd yn '''Rhiwallon Wallt Banhadlen''' (fl. ail ...
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Roedd ganddo dri frawd, sef [[Owain ab Urien|Owain]], [[Rhun fab Urien|Rhun]] a [[Pasgen]]. Ei frawd Owain a etifeddodd y deyrnas pan laddwyd Urien Rheged: canodd y bardd [[Taliesin]] iddo, ac i Urien hefyd, ond ni cheir canu ar glawr i Riwallon ei hun.
 
Ychydig o wybodaeth sydd gennym amdano, ond mae ganddo le yn [[hanes traddodiadol Cymru]]. Cyfeirir ato yn y [[Trioedd Ynys Prydain|Trioedd]] fel arweinydd un o 'Dri HualhogionHualogion Deulu Ynys Brydain', gyda theulu ([[gosgordd]] neu fintai o ryfelwyr) [[Cadwallon|Cadwallon Llawhir]] a theulu [[Belyn o Lŷn]]. Cyfeiriad digon moel ydyw, sy'n cyfeirio at fintai Rhiwallon "yn ymladd â['r] [[Saeson]]". Cynigir [[Rachel Bromwich]] fod y term "hualhogionhualogion" yn cyfeirio at ryw fath o ''insignia'' brenhinol.
 
Mae'r ddau gyfeiriad arall yn llai sicr, ond credir mai'r un yw "Rhiwallon Wallt Banhadlen" (a'i wallt yn felyn, yr un lliw â [[banadl]]) a Rhiwallon fab Urien. Roedd yn un o "Dri Deifniog" [[Ynys Brydain]], gyda [[Gwalchmai]] fab [[Gwyar]] a [[Llachau]] fab [[Arthur]]; mae'r gair ''deifniog'' yn golygu "pwysig, sylweddol, cyfoethog" ac yn awgrymu statws brenhinol eto. Cyfeirir ato fel un o "Dri Hualog Ynys Brydain" hefyd, gyda [[Cadwaladr Fendigaid]] a [[Rhun ap Maelgwn Gwynedd|Rhun]] ap [[Maelgwn Gwynedd]].