Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Robbie Savage"

Ychwanegwyd 294 beit ,  4 o flynyddoedd yn ôl
Ychwanegu ffynhonnell
(Ychwanegu gwybodaeth)
(Ychwanegu ffynhonnell)
Mae '''Robert William Savage''' (ganwyd [[18 Hydref]] [[1974]]) yn gyn-bêl-droediwr a sylwebydd o Gymru. Treuliodd y rhan fwyaf o'i yrfa yn chwarae yng nghanol cae, gan ddechrau yng ngharfan ieuenctid Manchester United cyn ymuno â [[Crewe Alexandra F.C.|Crewe Alexandria]]. Chwaraeai yn gyson i [[Leicester City F.C.|Leicester City]] ar ddiwedd y 1990au a dechrau'r 2000au, ac yn ddiweddarach i [[Birmingham City F.C.|Birmingham City]] a [[Blackburn Rovers]]. Ymunodd â [[Derby County|Derby County F.C.]] yn 2008 ac, yn dilyn cyfnod byr ar fenthyg gyda Brighton & Hove Albion, dychwelodd i gapteinio Derby, gan orffen ei yrfa fel chwaraewr yno. Chwaraeodd i [[Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru|dim cenedlaethol Cymru]] 39 o weithiau. Mae bellach yn sylwebydd gyda'r BBC ac yn cyflwyno 606 yn rheolaidd ar BBC Radio 5 Live gyda'i gyd-sylwebydd Darren Fletcher.
 
Roedd Savage yn gystadleuydd, ac yn cyd-ddawnsio â'r ddawnswraig broffesiynol Ola Jordan, yn nawfed cyfres deledu [[Strictly Come Dancing]] yn 2011.<ref>{{Cite web|url=https://www.theguardian.com/tv-and-radio/2011/sep/06/strictly-come-dancing-2011-contestants|title='Strictly Come Dancing 2011: the sequinned contestants are revealed', The Guardian|date=6 Medi 2011|access-date=|website=|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>
 
{{Eginyn Cymry}}