Gweledydd Brahan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Roedd '''Gweledydd Brahan''', (Gaeleg: ''Coinneach Odhar Fiosaiche (y gweledydd glas proffwydol'')), neu Kenneth Mackenzie, yn ddyn hysbys a oedd yn gallu rhagfynegi’r dyfodol ac yn byw yn yr Alban yn y 17eg ganrif<ref>[http://www.historic-uk.com/HistoryUK/HistoryofScotland/The-Brahan-Seer-the-Scottish-Nostradamus/ Historic Scotland ''The Brahan Seer – the Scottish Nostradamus'']] adalwyd 12 Medi 2017</ref>. Yr awdur cyntaf i grybwyll hanes y dyn hysbys mewn llyfr oedd y Cymro [[Thomas Pennant]] yn ei lyfr ''A Tour in Scotland''<ref>[http://www.undiscoveredscotland.co.uk/usbiography/b/brahanseer.html UNDISCOVERED SCOTLAND ''THE BRAHAN SEER'']</ref>
 
Mae rhai yn honni bod nifer o broffwydoliaethau Gweledydd Brahan yn ffrwyth dychymyg y llenor gwerin Alexander MacKenzie, y dyn a fu’n gyfrifol am eu casglu gan fod rhai o’r hanesion a rhagfynegodd wedi digwydd ymhell cyn iddynt gael eu cyhoeddi mewn llyfr. Mae eraill yn cwestiynu os oedd y gweledydd wedi bodoli o gwbl<ref>Thompson, Francis. (1976). ''The Supernatural Highlands''. R. Hale. tud. 72.</ref><ref>Wilson, Damon. (1999). ''The Mammoth Book of Nostradamus and Other Prophets''. Carroll & Graf. p. 211. ISBN|978-0786706280</ref>.
 
==Bywyd cynnar==