Gweledydd Brahan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1:
[[Delwedd:Brahan Seer Memorial - geograph.org.uk - 486931.jpg|bawd|Carreg Coffa Gweledydd Brahan]]
Roedd '''Gweledydd Brahan''', (Gaeleg: ''Coinneach Odhar Fiosaiche (y gweledydd glas proffwydol'')), neu Kenneth Mackenzie, yn [[Dyn Hysbys|ddyn hysbys]] a oedd yn gallu rhagfynegi’r dyfodol ac yn byw yn [[yr Alban]] yn y 17eg ganrif<ref>[http://www.historic-uk.com/HistoryUK/HistoryofScotland/The-Brahan-Seer-the-Scottish-Nostradamus/ Historic Scotland ''The Brahan Seer – the Scottish Nostradamus'']] adalwyd 12 Medi 2017</ref>. Yr awdur cyntaf i grybwyll hanes y dyn hysbys mewn llyfr oedd y Cymro [[Thomas Pennant]] yn ei lyfr ''A Tour in Scotland''<ref>[http://www.undiscoveredscotland.co.uk/usbiography/b/brahanseer.html UNDISCOVERED SCOTLAND ''THE BRAHAN SEER'']</ref>
Mae rhai yn honni bod nifer o broffwydoliaethau Gweledydd Brahan yn ffrwyth dychymyg y llenor gwerin Alexander MacKenzie, y dyn a fu’n gyfrifol am eu casglu gan fod rhai o’r hanesion a rhagfynegodd wedi digwydd ymhell cyn iddynt gael eu cyhoeddi mewn llyfr. Mae eraill yn cwestiynu os oedd y gweledydd wedi bodoli o gwbl<ref>Thompson, Francis. (1976). ''The Supernatural Highlands''. R. Hale. tud. 72.</ref><ref>Wilson, Damon. (1999). ''The Mammoth Book of Nostradamus and Other Prophets''. Carroll & Graf. p. 211. ISBN|978-0786706280</ref>.
Llinell 8:
==Cael y ddawn i broffwydo==
Yn ôl un hanes bu fam Kenneth yn gwylio ei gwartheg liw nos,
Yn ôl hanes arall aeth Kenneth i gysgu ar fryn tylwyth teg, wedi blino’n lan o wario’r dydd yn torri mawn. Pan ddeffrodd cafodd hyd i garreg fechan, glain neidr (carreg efo twll yn ei chanol), yn ei gôt, a oedd yn caniatáu iddo weld y dyfodol trwy edrych trwy’r twll. Ei weledigaeth gyntaf oedd un o’i wraig yn dod a bwyd iddo. Roedd y bwyd wedi cael ei wenwyno gan ddynes yr oedd yn cael perthnasau all briodasol efo fo, ac yn ofni byddai eu perthynas yn cael ei ddarganfod. Gwrthododd bwyta’r bwyd, gan ei roi i’w gi, bu farw’r ci, gan brofi grym proffwydol y garreg<ref>[http://www.sacred-texts.com/neu/celt/pbs/pbs03.htm ''PROPHECIES OF THE BRAHAN SEER: Intrioduction] adalwyd 10 Medi 2017</ref>
==Marwolaeth==
Aeth Iarll Seaforth ar ymweliad a [[Paris|Pharis]], ar gais y [[Siarl II, brenin Lloegr a'r Alban|Brenin Siarl II]], bu i ffwrdd am lawer hirach nag oedd ei wraig, yr iarlles, yn disgwyl. Heb wybod os oedd ei gŵr yn fyw neu farw gofynnodd yr Iarlles, i Kenneth os oedd yn gallu gweld be oedd wedi digwydd i’r iarll y ddinas bell. Atebodd y dyn hysbys ''Peidiwch ag ofni am eich arglwydd, mae'n ddiogel ac yn gadarn, yn dda o iechyd, yn fodlon ac yn hapus ''<ref>[http://www.scotsman.com/lifestyle/the-brahan-seer-scotland-s-nostradamus-1-465275 The Scotsman ''The Brahan Seer: Scotland's Nostradamus'']]adalwyd 10 Medi 2017</ref>. Roedd yr iarlles wedi drysu gyda’r ymateb a phwysodd ar y dyn hysbys i egluro paham nad oedd wedi dychwelyd. Gwrthododd dweud ar sawl achlysur gan ymateb ''Byddwch yn fodlon, heb holi rhagor - gadewch iddo fod yn ddigon i chi wybod bod eich arglwydd yn dda ac yn iach'', ond parhaodd yr iarlles i bwyso arno i ddweud y cyfan. O dan y fath pwysau ildiodd Kenneth gan egluro bod yr iarll wedi anghofio am ei wraig, ei blant a’i gartref gan ei fod yn mwynhau pleserau rhywiol gyda merched Paris. Ffromodd yr iarlles, nid oherwydd anniweirdeb ei gŵr, ond oherwydd ''enllib'' Kenneth. Penderfynodd lladd y negesydd, a’i orchymyn i'w llosgi fel [[gwrach]].<ref>[http://www.sacred-texts.com/neu/celt/pbs/pbs11.htm The Seers Death ''Prophecies of the Brahan Seer, by Alexander Mackenzie, (1899), at sacred-texts.com''] adalwyd 10 Medi 2017</ref>
==Cyfeiriadau==
|