Gweledydd Brahan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 8:
 
==Cael y ddawn i broffwydo==
Yn ôl un hanes bu fam Kenneth yn gwylio ei gwartheg liw nos, pan welodd hi, tua'r hanner awr ocyn hanner nos, yr holl feddau mewn mynwent ger llaw yn agor, a’r cyfan o’r cyrff oedd yn gorffwys yn y beddau yn mynd ymaith i bob cyfeiriad. Ar ôl oddeutu awr, dechreuodd y meirw dychwelyd i orffwys eto yn eu mannau claddu. Ond, wrth sganio'r lle claddu yn fwy agos, gwelodd mam Kenneth bod un bedd yn dal i fod ar agor. Gan ei fod yn ferch ddewr, penderfynodd ganfod pam bod y bedd yn parhau’n wag. Gosododd ei chogail wrth ei geg, gan na all ysbryd fynd i mewn i fedd eto tra'r oedd yr offeryn hwnnw arno. Wedi aros ychydig daeth ysbryd merch ifanc landeg i’r fynwent gan ofyn i fam Kenneth i symud ei chogail er mwyn iddi ddychwelyd i’w bedd. Cytunodd y fam i wneud hynny ar yr amod bod yr ysbryd yn egluro paham ei bod hi mor hwyr yn dychwelyd. Ei hateb oedd bod ei siwrnai hi i yn un llawer hirach na’r gweddill gan ei fod yn gorfod mynd yr holl ffordd i Norwy, gan ei bod yn dywysoges o Norwy a boddodd gerllaw. Symudwyd y cogail ac fel diolch dwedodd yr ysbryd wrthi “ewch i’r llyn a chael hyd i garreg fach grwn, bydd rhoi i'ch mab, Kenneth y gallu i ddatgelu digwyddiadau yn y dyfodol." Cafodd hyd i’r garreg a'i roi i'w mab.
 
Yn ôl hanes arall aeth Kenneth i gysgu ar fryn tylwyth teg, wedi blino’n lan o wario’r dydd yn torri mawn. Pan ddeffrodd cafodd hyd i garreg fechan, glain neidr (carreg efo twll yn ei chanol), yn ei gôt, a oedd yn caniatáu iddo weld y dyfodol trwy edrych trwy’r twll. Ei weledigaeth gyntaf oedd un o’i wraig yn dod a bwyd iddo. Roedd y bwyd wedi cael ei wenwyno gan ddynes yr oedd yn cael perthnasau all briodasol efo fo, ac yn ofni byddai eu perthynas yn cael ei ddarganfod. Gwrthododd bwyta’r bwyd, gan ei roi i’w gi, bu farw’r ci, gan brofi grym proffwydol y garreg<ref>[http://www.sacred-texts.com/neu/celt/pbs/pbs03.htm ''PROPHECIES OF THE BRAHAN SEER: Intrioduction] adalwyd 10 Medi 2017</ref>