Carwyn James: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B +en
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
mwy o fanylion
Llinell 1:
Enillodd '''Carwyn James''' (1929 - 1983) ddau gap [[Rygbi'r Undeb]] dros Gymru, ond mae'n fwy enwog fel hyfforddwr timau Llanelli a'r Llewod.
Un o hyfforwyr [[rygbi]] gorau'r byd oedd '''Carwyn James'''.
 
Ganwyd ar yr ail o Dachwedd 1929, yng [[Cefneithin|Nghefneithin]], pentref glofaol ger [[Llanelli]] (lle ganed [[Barry John]] hefyd). Mynychodd Ysgol Ramadeg y Gwendraeth, Drefach, a chafodd chwe chap dros Ysgolion Uwchradd Cymru. Chwaraeodd hefyd dwy gem i Lanelli tra yn yr ysgol uwchradd.
 
Cymraeg oedd ei bwnc yng [[Coleg Prifysgol Cymru|Ngholeg Prifysgol Cymru]] [[Aberystwyth]]. Roedd gwasanaeth milwrol yn orfodol ar y pryd ac felly ymunodd â'r Llynges lle y dysgodd Rwsieg. Roedd yn athro o ran galwedigaeth ac yn nes ymlaen yn ddarlithydd yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin.
 
Wedi dychwelyd i [[Sir Gâr]] bu'n chwarae yn gyson i Lanell fel maswr. Enillodd ddau gap dros Gymru yn 1958, ond mae'n debygol y byddai wedi ennill llawer mwy onibai ei fod yn cystadlu a [[Cliff Morgan]] am safle'r maswr yn y tim cenedlaethol.
 
Wedi ymddeol fel chwaraewr, daeth yn hyfforddwr Llanelli. Yn ystod ei gyfnod fel hyfforddwr enillodd Llanelli Gwpan Cymru bedair gwaith rhwng 1973 a 1976, ac ennill buggugoliaeth enwog dros y [[Crysau Duon]] yn 1972. Ni fu erioed yn hyfforddwr tim Cymru, yn rhannol oherwydd ei fod yn credu y dylai'r hyfforddwr fod yn gadeirydd y pwyllgor dewis ac yn enwebu'r dewiswyr eraill. Dewiswyd ef yn hyfforddwr y Llewod Prydeinig ar gyfer eu taith i Seland Newydd yn 1971. Enillwyd y gyfres, yr unig dro hyd yma i'r Llewod ennill cyfres yn Seland Newydd.
 
Bu Carwyn James yn ymgeisydd dros [[Plaid Cymru]] yn etholiad seneddol 1970. Wedi ymddeol fel hyfforddwr daeth yn amlwg fel darlledydd. Bu farw'n sydyn mewn ystafell gwesty yn Amsterdam yn 1983.
 
Dychwelyd i [[Sir Gâr]], ac yr oedd yn chwarae yn gyson i Lanell.
 
[[Category:Cymry enwog|James, Carwyn]]
[[Category:Chwaraewyr rygbi enwog|James, Carwyn]]
 
[[en:Carwyn James]]