Iau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Lloffiwr (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 20:04, 8 Hydref 2005
- Pwnc yr erthygl hon yw'r offeryn amaethyddol a elwir yn iau. Am ystyron eraill gwelwch iau (gwahaniaethu).
Darn o bren wedi ei wisgo am wddf pâr o anifeiliaid yw iau. Defnyddir yr offer hwn i alluogi anifeiliaid i dynnu llwyth, e.e. aradr, coed, trol, cert, neu i droi pwmp dŵr i ddyfrhau. Pwrpas yr iau yw rhannu gwaith y tynnu ar draws ysgwyddau’r anifeiliaid.
Defnyddir iau ar geffylau weithiau ond ar ychain y’i gwelir amlaf. Defnyddir ychain â chyrn arnynt er mwyn cadw’r iau yn ei le pan fyddant yn arafu, yn cerdded am nôl neu yn gostwng eu pennau.