Wynford Ellis Owen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Ehangu ac ail-drefnu
Llinell 7:
Roedd ei dad, Robert Owen, yn weinidog gyda’r [[Methodistiaid Calfinaidd]] yn [[Llanllyfni]].
 
Ers yn blentyn roedd wedi arbrofi gyda chyffuriau gan ddwyn meddyginiaethau ei fam ac o aelodau eglwys ei dad. Fel oedolyn bu'n gaeth i alcohol a valium.<ref>{{dyf newyddion|url=http://www.walesonline.co.uk/news/health/wynford-ellis-owen-reveals-road-2138858|teitl=Wynford Ellis Owen reveals his road to addiction|cyhoeddwr=WalesOnline|iaith=en|dyddiad=10 November 2008|dyddiadcyrchu=12 Medi 2017}}</ref> Cafodd driniaeth am ddibyniaeth yng nghanolfan Rhoserchan yn Aberystwyth a bu'n sobr ers 22 Gorffennaf 1992. Graddiodd mewn Cwnsela Dibyniaeth yn 2008 ac ar 1 Hydref 2008 cychwynnodd weithio fel Prif Weithredwr Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill.
 
Datblygodd canolfan gymunedol Stafell Fyw Caerdydd i gefnogi pobl gyda dibyniaeth ar gyffuriau yn ardal Caerdydd. Agorwyd y ganolfan yn 2011. <ref>{{dyf gwe|url=http://www.livingroom-cardiff.com/cymraeg/aboutus/staff.html|teitl=Stafell Fyw Caerdydd - Ein tîm|cyhoeddwr=Stafell Fyw|dyddiadcyrchiad=12 Medi 2017}}</ref>
 
Ymddeolodd o Stafell Fyw Caerdydd ar 31 Awst 2017 er ei fod am barhau i weithio rhan amser ar cynlluniau i agor canolfannau Stafell Fyw yng Nghaerfyrddin a Chaernarfon. Mae hefyd yn gobeithio ail-afael ar ysgrifennu a dechrau creu dramâu a chyfresi teledu gyda’i ferch.<ref>{{dyf newyddion|url=https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/274543-stafell-fyw-caerdydd-ehangu-ir-gogledd-ar-gorllewin|teitl=Stafell Fyw Caerdydd – ehangu i’r gogledd a’r gorllewin|cyhoeddwr=Golwg360|dyddiad=31 Awst 2017|dyddiadcyrchu=12 Medi 2017}}</ref>
 
Fe'i urddwyd gyda'r wisg werdd yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Môn 2017|Eisteddfod Genedlaethol Môn 2017]]
<ref>{{dyf newyddion|url=https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/262544-derbyn-geraint-jarman-a-george-north-ir-orsedd|teitl=Derbyn Geraint Jarman a George North i’r Orsedd|cyhoeddwr=Golwg360|dyddiad=4 Mai 2017|dyddiadcyrchu=12 Medi 2017}}</ref>
 
==Bywyd personol==