Gruffudd ap Gwenwynwyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
Pan ddechreuodd [[Llywelyn ap Gruffudd]] ymestyn ei awdurdod yng Nghymru wedi [[1255]], parhaodd Gruffudd yn gefnogol i goron Lloegr, ac yn [[1257]] gyrrwyd ef o'i deyrnas eto. Yn 1263 cytunodd i drosglwyddo ei wrogaeth i Lywelyn, dan y bygythiad y byddai'n colli ei diroedd yn barhaol os na wnai, a chadarnhawyd hyn yng [[Cytundeb Trefaldwyn|Nghytundeb Trefaldwyn]] yn 1267.
 
Bu raid iddo ffoi i Loegr eto wedi cynllwyn i lofruddio Llywelyn yn 1274. Wedi rhyfel 1277, pan orfodwyd LLywelyn i ildio ei diroedd tu allan i Wynedd dan delerau [[Cytundeb Aberconwy]], cafodd Gruffudd ei diroedd yn ôl eto. Cefnododd Gruffudd [[Edward I, brenin Lloegr]] yn rhyfel 1282, er ei fod yn hen ŵr erbyn hyn.
 
Ar ddiwedd y rhyfel, gwnaed i ffwrdd a thywysogaeth Powys-Wenwynwyn, a daeth y teulu yn un o arglwyddi'r gororau, gan fabwysiadu'r cyfenw ''de la Pole'', ar ôl eu prif ganolfan Poole ([[Y Trallwng]], "Welshpool" yn Saesneg heddiw). O 1283 ymlaen, ymddengys mai ei fab, [[Owain ap Gruffudd ap Gwenwynwyn]] neu Owen de la Pole, oedd yn rhedeg ei arglwyddiaeth. Bu farw Gruffudd rywbryd rhwng Chwefror 1286 a diwedd 1287.