Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Ochr 1"

Ychwanegwyd 4 beit ,  4 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
B
|}}
 
Rhaglen gerddoriaeth ar [[S4C]] yw '''''Ochr 1''''' sy'n rhoi sylw i gerddoriaeth Gymraeg amgen a chyfoes o bob math. Cychwynnodd y gyfres yn 2013 fel rhan o arlwy '''Y Lle''' ar gyfer pobl ifanc. Mae wedi ei chyflwyno gan Griff Lynch.
 
Mae amrywiaeth o bethau’n cael eu cynnwys ar Ochr 1 megis sesiynau byw yn y stiwdio gan fandiau fel [[Sŵnami]], [[Yws Gwynedd]], [[Cowbois Rhos Botwnnog]], [[Kizzy Crawford]] a mwy, yn ogystal â fideos wedi’u cyfarwyddo gan rai o gyfarwyddwyr mwyaf cyffroes Cymru a chyfweliadau gydag artistiaid y sîn gerddorol Gymraeg, mewn amryw o leoliadau ledled Cymru. Mae artistiaid poblogaidd megis [[HMS Morris]], [[Candelas]], [[Y Pencadlys]] ac [[Yr Eira]] wedi gwneud eu hymddangosiad teledu cyntaf ar Ochr 1.