Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Pip Broughton"

Ychwanegwyd 2,862 beit ,  4 o flynyddoedd yn ôl
ehangu
BNo edit summary
(ehangu)
Cyfarwyddwr ffilm, teledu a theatr yw '''Philippa Jane Broughton''', a adnabyddir fel '''Pip Broughton''' (ganed Ebrill [[1957]], [[Lerpwl]]).
 
 
== Gyrfa ==
Bu Broughton yn gweithio fel cyfarwyddwr theatr am 15 mlynedd, gan gynnwys swyddi fel Cyfarwyddwr Creadigol [[Croydon Warehouse]], [[Paines Plough]] a [[Nottingham Playhouse]]. Mae wedi gweithio ym maes ffilm a theledu ers 1995, gan gyfarwyddo sawl ffilm ar gyfer [[Channel 4]] a chyfresi drama ar ran [[ITV]] a'r [[BBC]], megis [[Blood on the Dole]], [[The Bill]], [[Close and True]], a [[55 Degrees North]].<ref>{{Cite web|url=https://www.voxpictures.co.uk/about|title=Vox Pictures⎮Home|website=Vox Pictures⎮Home|access-date=2017-08-22}}</ref><ref>{{Cite web|url=http://www.imdb.com/name/nm0112702/|title=Pip Broughton|website=IMDb|access-date=2017-08-22}}</ref>
 
Ers 2013, mae Broughton wedi bod yn cynhyrchu, a gweithio gyda cyfarwyddwyr newydd fel rhan o gyfres [[Playhouse Presents]] [[Sky Arts]]; gan gyd-weithio gyda [[Idris Elba]], [[Matt Smith (actor)|Matt Smith]] a [[Polly Stenham]]; a'r llenorion [[Frank McGuinness]], [[Eve Ensler]], [[Mark Ravenhill]], [[Jeremy Brock]], [[Paul O'Grady|Paul O’Grady]], [[Rebecca Lenkiewicz]] a [[Sandi Toksvig]].<ref>{{Cite web|url=http://www.imdb.com/name/nm0112702/|title=Pip Broughton|website=IMDb|access-date=2017-08-22}}</ref>
 
Yn 2014, cyfarwyddodd Broughton addasiad o [[Under Milk Wood]] ar gyfer y BBC, ffilm a serennodd [[Michael Sheen]], [[Tom Jones (canwr)|Tom Jones]], a [[Jonathan Pryce]].<ref>{{Citation|title=Under Milk Wood (TV Movie 2014)|url=http://www.imdb.com/title/tt3769244/?ref_=nm_flmg_dr_3|accessdate=2017-08-22}}</ref>.
 
== Vox Pictures ==
Ar y cyd â'r cynhyrchydd [[Adrian Bate]], mae Broughton yn rhedeg cwmni Vox Pictures. Mae eu cynhyrchiadau'n cynnwys [[Just Jim (ffilm 2015)|Just Jim]], a ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd gan [[Craig Roberts]]; [[Aberfan: The Green Hollow]], ffilm o gerdd gan [[Owen Sheers]] a gyfarwyddwyd gan Broughton, a nomineiddwyd ar gyfer gwobr [[BAFTA]] yn y categori Drama Unigol Orau ar gyfer Teledu; [[Keeping Faith]], a gyfarwyddwyd gan Broughton, ysgrifennwyd gan [[Matthew Hall (llenor)|Matthew Hall]] a serennodd [[Eve Myles]], ar gyfer [[S4C]] a [[BBC Cymru]].<ref>[http://www.bbc.co.uk/mediacentre/latestnews/2017/bbc-wales-s4c-keeping-faith]</ref><ref>{{Cite web|url=http://www.bbc.co.uk/mediacentre/proginfo/2016/43/aberfan-the-green-hollow|title=BBC - Aberfan: The Green Hollow - Media Centre|website=www.bbc.co.uk|language=en-GB|access-date=2017-08-22}}</ref><ref>{{Cite news|url=https://www.screendaily.com/news/craig-roberts-launches-production-company-readies-second-feature/5099127.article|title=Craig Roberts launches production company; readies second feature|work=Screen|access-date=2017-08-22|language=en}}</ref>
 
== Bywyd personol ==
Mae Broughton yn byw yn [[Trefynwy|Nhrefynwy]] gyda'i gŵr [[Aneirin Hughes]]<ref>[http://www.thefreelibrary.com/When+a+murder+touches+your+own+family%3B+TV+DRAMA+WILL+MAKE+ANEIRIN+A...-a060279379 When a murder touches your own family; TV DRAMA WILL MAKE ANEIRIN A STAR], The Mirror; 1/2000; Adalwyd 2015-12-23
</ref> a dau o blant.<ref>[http://www.offcentretheatre.org.uk/May%202013%20Showcase%20Spectacular%2013.pdf Cylchlythyr Off Centre Theatre, Mai 2013]; Adalwyd 2015-12-23</ref>
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
== Dolenni allanol ==
[http://www.imdb.com/name/nm0112702/?ref_=nv_sr_1 Pip Broughton]
 
{{eginyn Cymro}}
[[Categori:Cyfarwyddwyr ffilm Prydeinig]]
[[Categori:Cynhyrchwyr ffilm Prydeinig]]
[[Categori:Cyfarwyddwyr teledu]]
[[Categori:Cyfarwyddwyr theatr]]
[[Categori:Pobl o Lerpwl]]
 
[[en:Pip Broughton]]
20,669

golygiad