Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Helyntion Beca"

Ychwanegwyd 199 beit ,  12 o flynyddoedd yn ôl
copiwyd o'r dudalen ail-gyfeirio
(addasu defnydd o erthygl arall (Merched Becca); cat.)
(copiwyd o'r dudalen ail-gyfeirio)
[[Gwrthryfel]] gwerinol yn erbyn y tollau drud a godwyd am deithio ar hyd y [[Ffordd dyrpeg|ffyrdd tyrpeg]] oedd '''Helyntion Beca''' (hefyd '''Becca'''), a barodd o [[1839]] hyd [[1844]]. Trawodd Beca gyntaf yn [[Efail-wen]] ar yr [[13 Mai]] [[1839]], gan falu'r dollborth yno. Fe wnaethpwyd yr un peth eto ar y [[6 Mehefin]] yn yr un flwyddyn ac eto ar yr [[17 Gorffennaf]]. Llosgwyd y tolldy. Ni ddarganfuwyd pwy oedd y troeseddwyr, gan fod y rhai a gymerodd ran yn y weithred wedi duo eu gwynebau a gwisgo dillad menywod. Gwelwyd dryllio dros gant o dollbyrth rhwng Ionawr [[1843]] a gwanwyn [[1844]] ledled [[Gorllewin Cymru|de-orllewin Cymru]]. Roedd yr helynt ar ei waethaf yn [[Sir Gaerfyrddin]].
 
Roedd y dynion yn gwisgo dillad merched fel na fyddai neb yn eu hadnabod ac mae'r enw Rebecca yn gysylltiedig ag adnod 60 yn [[Llyfr Genesis|Genesis]] 24. 'Merched Rebecca' neu 'Ferched Beca' oedd yr enw arnyn nhw ar lafar. Mae rhai yn dweud cawson nhw eu henwi ar ôl benyw o'r enw Rebecca, neu BeccaBeca Fawr, a oedd wedi benthyg ei dillad iddyn nhw. Ond mae'r enw [[Rebecca]] yn gysylltiedig ag adnod 60 yn ''[[Llyfr Genesis]]'', pennod 24, hefyd. Roedd y dynion yn peintio’u gwynebau’n ddu ac yn gwisgo fel menywod fel na fyddent yn cael eu adnabod gan neb.
 
Achos yr helynt oedd y ''Turnpike Trusts'' newydd. Roedd rhaid talu i deithio ar hyd y ffyrdd. Roedd 'na ddeuddeg o nhw yn sir Gaerfyrddin, pedwar yn [[Sir Benfro]], dau yn [[Sir Aberteifi]], dau yn [[Sir Faesyfed]], un yn [[Sir Frycheiniog]] a deuddeg ym [[Morgannwg]]. Roedden nhw'n amhoblogaidd iawn yn arbennig gan ffermwyr oedd yn gorfod talu i yrru'r [[gwartheg]] hyd nhw.
Sonnir am [[Twm Carnabwth]] (Thomas Rees) fel un o'u harweinwyr. Roedd yn gymeriad cyfeillgar, lliwgar, ac yn ŵr crefyddol iawn. Roedd yn adroddwr pwnc gwych ond hefyd roedd yn enwog fel paffiwr (bocsiwr) mewn ffeiriau yn [[Sir Benfro]], [[Aberteifi]] a [[Caerfyrddin|Chaerfyddin]]. Cafodd Twm ei gladdu yng Nghapel y Bedyddwyr, [[Mynachlog Ddu]].
 
==Darllen pellachLlyfryddiaeth==
*David Williams, ''The Rebecca Riots'', David Williams, Gwasg Prifysgol Caerdydd, ISBN 0-7083-0933-X Trosiad gan Beryl Thomas, ''Helyntion Beca'' (1974)
*Pat Molloy ''And they blessed Rebecca'', Pat Molloy, Gwasg Gomer, ISBN 0-86383-031-5
*Catrin Stevens, ''Terfysg Beca'' (Gwasg Gomer, 2007)
 
 
{{eginyn hanes Cymru}}