Rhys ap Gruffudd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
B Edrych fel camddehongli gan y golygydd blaenorol o 212.219.229.15
Llinell 5:
== Bywyd cynnar ==
[[Delwedd:RhysapG.png|250px|bawd|'''Rhys ap Gruffudd''']]
Yr oedd Rhys yn ail fab i [[Gruffudd ap Rhys]], tywysog rhan o Ddeheubarth, a [[Gwenllian ferch Gruffudd]], chwaer [[Owain Gwynedd]]. Mae'n debygol iddo gael ei eni yn [[Iwerddon]]. Bu farw ei rieni pan oedd Rhys tua 4phedair oed, Gwenllian ar ôl iddi arwain byddin i ymosod ar gastell Normanaidd [[Castell Cydweli|Cydweli]] yn absenoldeb Gruffudd yn [[1136]], a Gruffudd ei hun y flwyddyn ganlynol. Ei frawd hŷn oedd [[Maredudd ap Gruffudd]], ac yr oedd ganddo ddau frawd iau, Morgan a Maelgwn. Yr oedd ganddo hefyd ddau hanner brawd, [[Anarawd ap Gruffudd|Anarawd]] a [[Cadell ap Gruffudd|Cadell]], ac o leiaf ddwy chwaer, Gwladus a Nest.
 
Yn dilyn marwolaeth ei dad, daeth ei hanner brawd [[Anarawd ap Gruffudd]] yn dywysog Deheubarth. Yn [[1143]], pan oed Rhys yn unarddeg oed, lladdwyd Anarawd trwy dwyll gan wŷr [[Cadwaladr ap Gruffudd]], brawd [[Owain Gwynedd]], brenin [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]]. Cosbodd Owain ei frawd trwy yrru ei fab [[Hywel ab Owain Gwynedd]] i gymeryd ei diroedd yng Ngheredigion oddi arno.