John Jones (Myrddin Fardd): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 2:
 
== Ei hanes ==
Ganwyd John Jones yn nhyddyn Tan-y-Ffordd, Mynytho, Plwyf [[Llangïan]], [[Llŷn]], ac fe'i bedyddiwyd yn Eglwys LlangianLlangïan ar 8fed o Fedi 1835, yn fab i John ac Ann Owen. Roedd ei frawd hŷn, Owain, yn ysgolhaig a llenor a dreuliai lawer o amser yn y [[Llyfrgell Brydeinig]] tra'n gweithio yn [[Llundain]], yn chwilota am ddeunydd ar gyfer ei erthyglau i gylchgronau fel [[Y Brython]] a [[Golud yr Oes]]. Etifeddodd John nodiadau ei frawd ar ôl ei farwolaeth yn [[1866]]. Dysgodd ei grefft fel gof yng ngefail Y Pandy, [[Chwilog]]. Er na dderbyniodd ond ychydig o addysg (yn Ysgol Elfennol y Foel Gron, [[Mynytho]]), yr oedd yn ymchwilydd brwdfrydig a ymddiddorai yn hanes a thraddodiadau ei fro a'r hen [[Sir Gaernarfon]]. Bu farw'n sydyn yn ei gartref yn Chwilog, 27 Chwefror 1921 yn 85 oed, ac fe'i claddwyd ym mynwent gyhoeddus Chwilog.
 
== Ei waith Llenyddol ==