Llandecwyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: clean up, replaced: 6ed ganrif → 6g using AWB
Llydawr (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
Gorwedd y plwyf yng ngogledd-orllewin Ardudwy ar lan ddeheuol [[Afon Dwyryd]]. Mae'n ymestyn o'r arfordir i fyny i fryniau gogleddol y [[Rhinogau]]. Ceir [[Llyn Tecwyn Uchaf]] a [[Llyn Llennyrch]] yng ngogledd y plwyf.
 
Yn yr Oesoedd Canol bu'n rhan o gwmwd [[Ardudwy Uwch Artro]]. Prin bod Llandecwyn yn "bentref" o gwbl, ond yn hytrach mae'n gymuned o dai a ffermydd gwasgaredig o gwmpas yr eglwys. Adeilad newydd a godwyd yn [[1879]] yw'r eglwys bresennol, ond mae'n sefyll ar safle egwlys ganoloesol. Erys carreg o tua'r [[11g]] yno, yn coffa'r sant a ddaeth yma, yn ôl traddodiad, yng ngosgordd [[Cadfan (sant)|Cadfan]]. Ceir Plas Llandecwyn gerllaw.<ref name="Crwydro">[[T. I. Ellis]], ''Crwydro Meirionnydd'' ([[Cyfres Crwydro Cymru]], 1954).</ref>
 
Brodor o Landecwyn oedd y pregethwr a llenor [[D. Tecwyn Evans]] (David Evans). Yma hefyd y ganed J. H. Jones, cyn-olygydd ''[[Y Brython]]''.<ref name="Crwydro"/>