Thrace: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
Roedd y Thraciaid wedi ei rhannu yn nifer o lwythau, heb fod wedi uno yn un wladwriaeth. Ymsefydlodd rhai Groegiaid yno o'r 6g CC. ymlaen, a chafodd diwylliant Groeg gryn ddylanwad yn yr ardal. Ymddangosodd rhai Thraciaid, megis [[Orpheus]], ym [[mytholeg Groeg]]. Daeth yr ardal yn rhan o Ymerodraeth [[Persia]] wedi iddi gael ei choncro gan [[Darius Fawr]] yn [[513 cC]] - [[512 CC]]. Wedi i'r Persiaid encilio, rhannwyd Thrace yn dair rhan. Yn y 4g CC. concrwyd Thrace gan [[Philip II, brenin Macedon]] a bu dan reolaeth y Macedoniaid hyd nes i'r Rhufeiniaid eu gorchfygu ym [[Brwydr Pydna|Mrwydr Pydna]] yn 168 CC. a chymeryd meddiant o Thrace. Yn [[279 CC]], symudodd [[Y Celtiaid|Celtiaid]] o Gâl i Thrace ac ymsefydlu yno hyd ddiwedd y ganrif.
 
Am gyfnod, roedd Thrace yn nifer o deyrnasoedd hanner-annibynnol dan reolaeth Rhufain, ond wedi cyfnod o derfysg daeth yn dalaith Rufeinig [[Thracia]] yn [[46]]. Roedd y llengoedd yn [[Moesia]] yn gyfrifol am ddiogelwch y dalaith. Yn ddiweddarach bu ymladd am Thrace rhwng yr [[Ymerodraeth Fysantaidd]] a Bwlgaria, nes i'r [[Ymerodraeth OttomanaiddOtomanaidd]] gymeryd meddiant o'r ardal yn y [[14g]] a dal gafael arni am bum canrif.
 
==Thraciaid enwog==