David Ben-Gurion: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: clean up
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
Ganed Ben-Gurion yn [[Płońsk]], [[Gwlad Pwyl]] yn awr, ond yr adeg honno yn rhan o [[Ymerodraeth Rwsia]]. Cyfreithiwr oedd ei dad, [[Avigdor Grün]]; bu farw ei fam, Scheindel, pan oedd yn 11 oed. Roedd y teulu yn gefnogwyr brwd i [[Seioniaeth]]. Ymfudodd Ben-Gurion i Balesteina yn 1906, a bu'n gweithio mewn amaethyddiaeth yno ar y dechrau. Yn 1912 symudodd i [[Istanbul]] i astudio'r gyfraith, a newidiodd ei gyfenw i Ben-Gurion.
 
Ar y pryd roedd Palesteina yn rhan o'r [[Ymerodraeth OttomanaiddOtomanaidd]], ac yn 1915 taflwyd ef o'r wlad oherwydd ei weithgareddau gwleidyddol, Ymsefydlodd yn [[Efrog Newydd]], lle priododd Paula Munweis yn 1917. Yn dilyn [[Datganiad Balfour]] yn Nhachwedd 1917, ymunodd a Lleng Iddewid y fyddin Brydeinig. Dychwelodd i Balesteina, oedd yn awr dan reolaeth [[Y Deyrnas Unedig|Brydeinig]], ar ddiwedd y rhyfel. Daeth yn amlwg yn y mudiad cenedlaethol, gan ddod yn ysgrifennydd y mudiad llafur Iddewig [[Histadrut]], ac o 1930 ymlaen yn arweinydd [[Mapai]], y blaid lafur Seionaidd.
 
Cyhoeddodd Ben Gurion sefydliad gwladwriaeth Israel ar [[14 Mai]] [[1948]], a daeth yn Brif Weinidog y wlad newydd. Bu ganddo ran amlwg yn y rhyfel rhwng Israel a'r gwledydd Arabaidd a ddilynodd. Heblaw am gyfnod o ddwy flynedd rhwng [[1954]] a [[1955]], bu yn y swydd hyd [[1963]]. Ymddiswyddodd yn 1963, a dilynwyd ef gan [[Levi Eshkol]]. Ffraeodd ag Eshkol y flwyddyn wedyn, a ffurfiodd blaid newydd, Rafi, a enillodd ddeg sedd yn y [[Knesset]]. Ymddeolodd o wleidyddiaeth yn [[1970]].