Unbennaeth Epirus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →top: clean up |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 5:
Cipiwyd Caergystennin gan y croesgadwyr ar anogaeth [[Fenis]] yn ystod [[y Bedwaredd Groesgad]] yn 1204, a sefydlasant hwy eu hymerodraeth ei hunain, yr [[Ymerodraeth Ladin]], yng Nghaergystennin a rhai o diriogaethau'r Ymerodraeth Fysantaidd. Un o'r rhannau yr ymrannodd yr Ymerodraeth Fysantaidd iddynt oedd Unbennaeth Epirus, yng ngogledd ddwyrain Groeg. Sefydlwyd yr Unbennaeth gan [[Mihangel I Komnenos Doukas]], cefner yr ymerodron Bysantaidd [[Isaac II Angelos]] ac [[Alexios III Angelos]]. Ymfudodd nifer o Roegiad amlwg o Gaergystennin i Epirus, ond nid ystyriai [[Patriarch Caergystennin]], [[John Camaterus|Ioan X Kamateros]], fod Epirus yn olynydd cyfreithiol i'r Ymerodraeth Fysantaidd, a dewisodd fynd i [[Ymerodraeth Nicea]] yn hytrach nag Epirus. Ymateb Mihangel oedd cydnabod awdyrdod y [[Pab]] yn hytrach na'r Patriarch.
Ar y cyntaf bu Epirus yn llwyddiannus yn filwrol, ond wedi i Ymerodraeth Nicea adfeddiannu Caergystennin ac adfer yr Ymerodraeth Fysantaidd daeth dan bwysau cynyddol. Yn 1337 ymosododd yr ymerawdwr Bysantaidd [[Andronikos III Palaiologos]] ar Epirus, ac ildiwyd yr Unbennaeth iddo. Parhaodd y teil ''despotes'' i gael ei ddefnyddio, ond yn raddol llyncwyd ei thiriogaeth gan yr [[Ymerodraeth
== Llywodraethwyr Epirus ==
|