Yr Ymerodraeth Rufeinig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B clean up
BDim crynodeb golygu
Llinell 118:
Dychwelodd Belisarius i'r Eidal yn [[544]], lle roedd y sefyllfa wedi newid yn fawr, a'r Ostrogothiaid dan eu brenin newydd [[Totila]] wedi adfeddiannu gogledd yr Eidal, yn cynnwys Rhufain. Llwyddodd Belisarius i ail-gipio Rhufain am gyfnod, ond roedd yr ymerawdwr yn amau ei deyrngarwch, a galwyd ef yn ôl o'r Eidal, gyda [[Narses]] yn cymryd ei le. Llwyddwyd i gadw gafael ar rai o'r tiriogaethau a adenillwyd am ganrif a mwy.
 
Mae eraill yn dadlau bod yr ymerodraeth Fysantaidd wedi dechrau mor hwyr ag yn oes [[Heraclius]], a wnaeth yr [[Groeg|iaith Roeg]] yn iaith swyddogol yn lle [[Lladin]], ac mae arbenigwyr arian bath yn ei gyfrif o ddiwygiad ariannol [[Anastasius I]] yn [[498]]. Dylid cofio, fodd bynnag, mai term a ddefnyddir gan haneswyyr diweddar yw "yr Ymerodraeth Fystantaidd", ac mai fel "yr ymerodraeth Rufeinig" y byddai ei thrigolion yn ei hystyried hyd ei diwedd. Er gwaethaf digwyddiadau fel cipio ac anrheithio [[Caergystennin]] gan y croesgadwr yn ystod y Bedwaredd Groesgad yn 1204, llwyddodd yr Ymerodraeth Fysantaidd i barhau hyd [[1453]], pan gipiwyd Caergystennin gan y [[Twrci]]aid [[OttomanYmerodraeth yr Otomaniaid|Otoman]].
 
== Dylanwad ==