Llangar: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Plwyf yn ardal hanesyddol Edeirnion, gogledd Cymru, yw '''Llangar'''. Mae'n gorwedd yn Sir Ddinbych heddiw ond bu gynt yn rhan o Sir Feirionnydd. Cofnodir y plwy...
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
Gorwedd y plwyf yng nghanol Edeirnion, rhwng plwyfi [[Llandrillo]] a [[Corwen|Chorwen]], gan godi i lethrau'r [[Berwyn]] i'r dwyrain. Am y rhan fwyaf o'r Oesoedd Canol bu'n rhan o [[Teyrnas Powys|Bowys]].
 
Canolfan y plwyf oedd y [[llan]] lle ceir Eglwys Llangar heddiw, tua hanner ffordd rhwng [[Cynwyd]] a Chorwen. yn [[Dyffryn Edeirnion|Nyffryn Edeirnion]], ar lan [[Afon Dyfrdwy]]. Bu'r llenor [[Edward Samuel]], gŵr o Benmorfa yn Edeirnion, yn berson yno o 1721 tan 1748; aeth un o'i feibion, [[David Samwell]] (Dafydd Ddu Feddyg), yn feddyg ar fordaith y Capten [[James Cook]] yn 1776-78.