Trahaearn ap Caradog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
crewyd
 
Osian (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Roedd '''Trahaearn ap Caradog''' (bu farw [[1081]]) yn dywysog [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] rhwng [[1075]] a 1081.
 
Ar farwolaeth [[Bleddyn ap Cynfyn]] yn 1075, mae'n ymddangos nad oedd yr un o'i feibion yn ddigon hen i hawlio'r deyrnas, a chipiodd cefnder Bleddyn, Trahaearn ap Caradog, y goron. Yr un flwyddyn glaniodd [[Gruffydd ap Cynan]] ar [[Ynys Môn]] gyda byddin o [[Iwerddon]], a chyda chymorth y Norman Robert o Ruddlan gorchfygodd Trahaearn ac enilloeddenillodd feddiant ar Wynedd. Fodd bynnag bu trafferthion rhwng milwyr Gwyddelig Gruffydd a'r Cymry lleol yn Llyn, a rhoddodd hyn gyfle i Drahaearn wrth-ymosod., gan orchfygu Gruffydd ym mrwydr Bron yr Erw yn 1075 a'i orfodi i ffoi i Iwerddon.
 
Teyrnasodd Trahaearn ar Wynedd tan [[1081]], pan ddychwelodd Gruffydd ap Cynan a gwneud cynghrair gyda [[Rhys ap Tewdwr]] tywysog [[Deheubarth]], oedd yn ddiweddar wedi ei yrru allan o'i deyrnas gan Caradog ap Gruffydd o Forgannwg. Gwnaeth Trahaearn gynghrair aâ Caradog ap Gruffydd, ond ym Mrwydr Mynydd Carn, i'r gogledd o [[Tyddewi|Dyddewi]] yr un flwyddyn lladdwyd Trahaearn a Caradog. Enillodd Gruffydd ap Cynan orsedd Gwynedd a dychwelodd Rhys ap Tewdwr i'w safle fel tywysog Deheubarth.