Cassini-Huygens: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Deri Tomos (sgwrs | cyfraniadau)
Cyfeiriad newyddion
Deri Tomos (sgwrs | cyfraniadau)
Gosod paragraff o erthygl ddrafft i "Barn".
Llinell 9:
Cyflawnodd ''Cassini'' mesuriadau ac arsylliadau lu, gan dynnu miloedd lawer o luniau<ref>{{Cite web|url=https://www.nasa.gov/mission_pages/cassini/images/index.html|title=Cassini Images|date=4 Awst 2017|access-date=15 Medi 2017|website=NASA|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>. Wrth i’w danwydd lliwio (yn hytrach na’r tanwydd [[Plwtoniwm]] a oedd yn ffynhonnell ei drydan) dod i ben penderfyniad y tîm rheoli oedd gorffen y daith trwy blymio ''Cassini'' i awyrgylch Sadwrn, lle’i darniwyd yn llwyr ar [[15]] [[Medi]] [[2017]] <ref>{{Cite web|url=https://saturn.jpl.nasa.gov/mission/grand-finale/latest-status/|title=Cassini. The Grand Finale.|date=15 Medi 2017|access-date=15 Medi 2017|website=Jet Propulsion Laboratory (NASA)|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>.
Yn ogystal â galluogi mesuriadau o awyrgylch Sadwrn, diben hyn oedd cadw unrhyw lygredd biotig a allasai fod ar y llong rhag cyrraedd a llygru lleuadau Sadwrn ([[Enceladws (lloeren)|Enceladws]] a [[Titan (lloeren)|Titan]] yn arbennig) lle, o bosib, mae bywyd cyntefig yn bodoli.
 
<br><br>
== Uchafbwyntiau’r Daith ==
 
Erbyn haf 2008, terfyn wreiddiol y prosiect, roedd wedi cyflawni ei dyletswyddau gwreiddiol, ac roedd Huygens wedi glanio’n llwyddiannus ar y lleuad Titan a darlledu cannoedd o luniau ohono. Yn 2008, ac eto yn 2010 , estynnwyd arianni (ac felly oes) y prosiect.
Gwnaeth Cassini fyrdd o ddarganfyddiadau a champau cyn ac ar ôl 2008. (Ymwelwch â gwefan NASA i weld detholiad o’r lluniau anhygoel.) Daeth o hyd i saith lleuad newydd (bellach mae 53 ag iddynt enwau) a manylu ar y rhai cyfarwydd (gan gynnwys darganfod llynnoedd hydrocarbon ar Titan), mesurodd hyd diwrnod ar Sadwrn (deg awr a thri-chwarter) a disgrifiodd stormydd a chorwyntoedd yn ei chymylau nas gwelwyd eu bath o’r blaen y tu hwnt i’r ddaear. Yn 2003 gwnaed arbrawf a gadarnhaodd ddamcaniaeth gyffredinol perthnasedd Einstein wrth i ddarllediadau Cassini blygu wrth fynd heibio’r haul ar eu trywydd hir yn ôl i’r ddaear. Un o uchafbwyntiau’r daith yw’r hyn a ddarganfuwyd ar y lleuad Enceladus. Yn 2005, canfuwyd awyrgylch tenau a geiserau o ddŵr yn tasgu iddo. Yn 2008 (ac eto yn 2015), mewn gweithredoedd sy’n adlewyrchu manylder y daith, bu modd i’r goden hedfan drwy un o’r geiserau, prin 30 milltir uwchben wyneb y lleuad, a dadansoddi’r dŵr a’r hydrocarbonau oedd ynddo. Erbyn 2015 roedd Cassini wedi casglu digon o ddata i ganiatáu i NASA gyhoeddi bod wyneb rhewllyd Enceladus yn arnofio ar gefnfor hylif hallt sy’n gorchuddio’r holl leuad. Yn ddiau, dyma un o’r safleoedd mwyaf gobeithiol o ran darganfod bywyd y tu hwnt i’r ddaear.
 
==Nofel==