Bwrdd yr Iaith Gymraeg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Nic Dafis (sgwrs | cyfraniadau)
B deddf iaith 1993 (nid '92)
Deddf yr iaith
Llinell 1:
Mae '''Bwrdd yr Iaith Gymraeg''' yn gorff statudol a sefydlwyd gan Lywodraeth Prydain fel rhan o [[Deddf yr Iaith gymraeg 1993|Ddeddf Iaith [[1993]]. Mae'n derbyn grant blynyddol gan y llywodraeth o £12 miliwn, sydd i fod i'w ddefnyddio er mwyn "hybu a hwyluso" defnydd o'r iaith Gymraeg.
 
Mae'r Bwrdd yn gyfrifol am weinyddu [[Deddf yr Iaith Gymraeg]], ac am sicrhau fod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn cadw at ei rheolau. Mewn gwirionedd, nid oes grym ganddo dros y cyrff hyn, ac yn wir mae'r Bwrdd wedi'i feirniadu yn y blynyddoedd ar am fethu hyrwyddo'r iaith o fewn y sector breifat.
 
Mae nifer o Gymry Cymraeg yn gweld y Bwrdd fel offeryn diddannedd a biwrocrataidd yn yr ymgyrch i arbed yr iaith Gymraeg. Dadl [[Cymdeithas yr Iaith Gymraeg]] yw fod angen Deddf Iaith Newydd i sicrhau hawliau Cymry Cymraeg ac i gynyddu defnydd o'r iaith ymysg y genhedlaeth iau.