Cassini-Huygens: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Deri Tomos (sgwrs | cyfraniadau)
Rhagor o ddata a cyfeiriad
Deri Tomos (sgwrs | cyfraniadau)
Cyswllt
Llinell 11:
Erbyn haf 2008, terfyn wreiddiol y prosiect, roedd wedi cyflawni ei dyletswyddau gwreiddiol, ac roedd ''Huygens'' wedi glanio’n llwyddiannus ar y lleuad [[Titan (lloeren)|Titan]] a darlledu cannoedd o luniau ohono. Yn 2008, ac eto yn 2010 , estynnwyd arianni (ac felly oes) y prosiect.
Gwnaeth ''Cassini'' fyrdd o ddarganfyddiadau a champau cyn ac ar ôl 2008<ref>{{Cite web|url=https://www.nasa.gov/mission_pages/cassini/main/index.html|title=Cassini at Saturn|date=13 Medi 2017|access-date=15 Medi 2017|website=NASA|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>. (Ymwelwch â gwefan [[NASA]] i weld detholiad o’r lluniau<ref name=":0" /> anhygoel.) Daeth o hyd i saith lleuad newydd (bellach mae 53 ag iddynt enwau) a manylu ar y rhai cyfarwydd (gan gynnwys darganfod llynnoedd [[hydrocarbon]] ar [[Titan (lloeren)|Titan]]), mesurodd hyd diwrnod ar [[Sadwrn (planed)|Sadwrn]] (deg awr a thri-chwarter) a disgrifiodd stormydd a chorwyntoedd yn ei chymylau nas gwelwyd eu bath o’r blaen y tu hwnt i’r ddaear. Yn 2003 gwnaed arbrawf a gadarnhaodd [[Damcaniaeth perthnasedd cyffredinol|ddamcaniaeth gyffredinol perthnasedd]] [[Albert Einstein|Einstein]] wrth i ddarllediadau ''Cassini'' blygu wrth fynd heibio’r [[haul]] ar eu trywydd hir yn ôl i’r ddaear. Un o uchafbwyntiau’r daith yw’r hyn a ddarganfuwyd ar y lleuad [[Enceladws (lloeren)|Enceladus]]. Yn 2005, canfuwyd awyrgylch tenau a [[Geiser|geiserau]] o [[Dŵr|ddŵr]] yn tasgu iddo. Yn 2008 (ac eto yn 2015), mewn gweithredoedd sy’n adlewyrchu manylder y daith, bu modd i’r goden hedfan drwy un o’r geiserau, prin 30 milltir uwchben wyneb y lleuad, a dadansoddi’r dŵr a’r [[Hydrocarbon|hydrocarbonau]] oedd ynddo. Erbyn 2015 roedd ''Cassini'' wedi casglu digon o ddata i ganiatáu i [[NASA]] gyhoeddi bod wyneb rhewllyd [[Enceladws (lloeren)|Enceladus]] yn arnofio ar gefnfor hylif hallt sy’n gorchuddio’r holl leuad. Yn ddiau, dyma un o’r safleoedd mwyaf gobeithiol o ran darganfod bywyd y tu hwnt i’r [[Y Ddaear|ddaear]].
 
==Nofel==