Llandecwyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: 250px|bawd|Eglwys Llandecwyn Plwyf yn ardal Ardudwy, de Gwynedd, yw '''Llandecwyn'''. Yn ôl traddodiad fe'i cysylltir â Sant [[Tec...
 
B dolen
Llinell 2:
[[Plwyf]] yn ardal [[Ardudwy]], de [[Gwynedd]], yw '''Llandecwyn'''. Yn ôl traddodiad fe'i cysylltir â [[Sant]] [[Tecwyn]] (fl. 6ed ganrif?), a sefydlodd [[llan]] yno.
 
Gorwedd y plwyf yng ngogledd-orllewin Ardudwy ar lan ddeheuol [[Afon Dwyryd]]. Mae'n ymestyn o'r arfordir i fyny i fryniau gogleddol y [[Rhinogau]]. Ceir [[Llyn Tecwyn Uchaf]] yng ngogledd y plwyf.
 
Yn yr Oesoedd Canol bu'n rhan o gwmwd [[Ardudwy Uwch Artro]]. Prin bod Llandecwyn yn "bentref" o gwbl, ond yn hytrach mae'n gymuned o dai a ffermydd gwasgaredig o gwmpas yr eglwys. Adeilad newydd a godwyd yn [[1879]] yw'r eglwys bresennol, ond mae'n sefyll ar safle egwlys ganoloesol. Erys carreg o tua'r [[11eg ganrif]] yno, yn coffa'r sant a ddaeth yma, yn ôl traddodiad, yng ngosgordd [[Cadfan]]. Ceir Plas Llandecwyn gerllaw.