Llygad Ebrill: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap)
ychwanegu testun meddyginiaeth
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap)
Llinell 44:
 
Sonia'r Herald Cymraeg (3 Medi 2008), "''fod Elizabeth Roberts, Penrhyndeudraeth yn ei llythyr yn cyfeirio at ei mam, Mary Thomas o Forfa Nefyn, oedd yn defnyddio planhigion meddyginiaethol. Roedd yn ddiddorol ei bod yn defnyddio llygad Ebrill fel un o’r planhigion i drin [[clwy’r marchogion]].''"
 
*Cyfeiria William Salesbury at ei rinweddau, yn ei lawysgrif o'r unfed ganrif ar bymtheg, fel a ganlyn: "Nerth blaendost sy yntho ag e bair it croen vchaf chwsigenny da ydyw rhac y grammen a rhac lepr. / E ddodir yn y phroenae y suc a wescir or gwraidd gyd a mel er mwyn carthy yr penn. / Ar yn phynyt y certhir yn phynnedig y penn ar cylla a ei iscell gyd a mel anyd ei gargareisio nei olchi y mwnwgl." <ref>LLGC 185a Llysieulyfr Meddyginiaethol William Salesbury</ref>, (ond geiriau Dioscorides, ''De Historum Stirpium'', L. Fuchs ydynt).
 
*Tardda brif ddefnydd meddyginiaethol Salesbury o'r hen goel ganoloesol: "Athrawiaeth yr Arwyddnodau", pan ystyriwyd bod tebygrwydd gweladwy rhwng y cloron tanddaearol a symptomau Clwy y Marchogion, neu'r Peils. Canfyddwyd bod eli o gloron pwyedig gwraidd Llygad Ebrill (mewn menyn gwyrf yn wreiddiol) yn effeithiol i leihau'r symptomau - sydd yn un o'r ychydig enghreifftiau cydnabyddedig o effeithiolrwydd yr Athrawiaeth. Erbyn hyn canfyddwyd bod cemegau ynddo sy'n gallu lleihau chwydd mewn gwythien (''vasoconstrictors'') ac mai y rheiny yw'r elfennau gweithredol.
 
Dywed D.T. Jones, Llanllyfni yn ei Lysieulyfr Teuluaidd (18..): "Y maent yn rhagorol o dda yn y peils pan y b'ont yn tori allan yn dethi neu yn gnapiau, trwy eu hel, sef y dail a'r gwraidd, a'u cnocio a'u berwi mewn ymenyn gwyrdd hyd nes y b'ont wedi crebychu, gan eu streinio trwy liain, a'u cadw yn eli i iro y peils, ac yn fynych fe a'ch gwellha yn fuan." Dywed R. Price ac E. Griffiths (1890)<ref>R. Price ac E. Griffiths (1890) Llysieu-lyfr Teuluaidd, Abertawy (1890), tud. 115</ref> ar gyfer yr un anhwylder: "Os bydd y dolur poenus hwn yn fewnol, gwell yw yfed tê cryf o hono; ond os bydd yr anhwyldeb yn allanol, gwell pwyo y gwraidd a'r dail, a'u berwi mewn ymenyn heb halen, nes y byddont yn eli gwyrdd, a'i hidlo, ac eneinio y lle ag ef."
 
;"Hefyd, gweithia y llysieuyn hwn yn rymus yn ffordd y dwfr, a glanha yr arenau a'r bledren o bob graian a rhwystrau; ac y mae yn oeri unrhyw fflamegau yn y rhanau hyny."<ref>R. Price & E. Griffiths, Llysieu-lyfr Teuluaidd, Abertawy (1890), tud. 115</ref>.
 
;"Ddegau o weithiau, pan yn hogyn, y bum yn casgu'r dail, i'w rhoi mewn diod dail poethion (''nettle beer''), - hen ddiod iachus, o aml i ddalen dda, y dylid gwneud llawer mwy ohoni nag a wneir yn bresennol."<ref>R. Morgan, Llyfr Blodau, Y Gyfrol Gyntaf (1909), tud. 163</ref>
 
== Cyfeiriadau ==