Llygad Ebrill: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
testun Cynefin
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap)
testun Enwau CymrEg eraill
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap)
Llinell 30:
Enw Safonol Cymraeg: Llygad Ebrill</br>
Enw Lladin: ''Ranunculus ficaria'' (L.): [''ranunculus'' = llyffant/broga bychan - yn gyfeiriad mae'n debyg at natur "amffibiaidd" amryw o'r teulu; ''ficaria'' = ffigysen fechan - yn cyfeirio at y cnapiau (cloron) hirgrwn nodweddiadol ar y gwraidd].
 
==Enwau Cymraeg Eraill==
Blodau Menyn (Maldwyn, Ceredigion), Aur bach y Gwanwyn, Llygad y Gwanwyn (Morgannwg), Melyn y Gwanwyn, Mil Melyn y Gwanwyn (Meirion), Seren y Gwanwyn, Bronwys, Bronwys Melyn y Gwanwyn, Bronwst, Llysiau'r Bronnau, Gwenith y Ddaear, Gwenith y Gog, Llym y Llygaid (Arfon), Llygad Dyniawed, Blodyn Llo Bach (Arfon), Milfyw (Arfon, Meirion, Ceredigion), Dail Peils (Arfon, Ceredigion), Llysiau'r Peils (Dinbych), Blodau'r Peils (Penfro)<ref>Davis, D. (19XX)</ref>,<ref>Awbery, G. (XXXX)</ref>.
 
Yn Llysieulyfr Meddyginiaethol William Salesbury, Gol.E.S Roberts (1916), tud. 243, rhestrir ei enwau fel a ganlyn: "y vronwys y vilfyw, nei melyn y gwanwyn yn Cambraec." Ceir "y fioled fraith" ymysg yr enwau a restrir gan D.T. Jones yn ei Lysieulyfr Teuluaidd, (Caernarfon, 18..) tud. 268, ond dichon mai parhad o gamddehongliad gan awduron cynharach o ddisgrifiad sy'n fwy perthnasol i ''Viola tricolor'' geir yma.
 
==Tarddiad yr Enwau==
Amryw yn cyfeirio at ei liw a'i dymor. Tebyg bod yr elfen "gwenith" mewn rhai enwau yn cyfeirio at y bylbynnau bychain a gynhyrchir yn y blodyn ar ddiwedd y tymor blodeuo. Mae y rhain yn ymdebygu i rawn gwenith ac yn fodd i'r planhigyn atgynhyrchu ac ymledu'n llystyfol.
 
"Bronwst" a "peils" yn cyfeirio at ei ddefnyddiau meddyginiaethol. "Milfyw" yn enw canoloesol ac yn arwyddo y byddai ei ymddangosiad yn arwyddo y byddai'r anifeiliaid fyw (yr enw yn gysylltiedig bellach a ''Luzula campestris'', gw. isod).
 
Ceir "Llym y llygaid" yn enw hefyd ar y Melynllys (''Chelidonium majus''). Yn Saesneg ceir cryn gymysgedd enwau rhwng ''C.majus - Greater Celandine'', a ''R. ficaria - Lesser Celandine'' gyda'r "celandine" yn y ddau achos yn tarddu o ''Chelidon'' - y wennol.
 
== Llenyddiaeth ==