Annála Connacht: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Llyfr blwyddnodau am y blynyddoedd 1224 i 1544 yw'r '''Annála Connacht''' ("Cronicl/Blwyddnodau Connacht"). Maent yn gasgliad o lawysgrif a ysgrifennwyd yn y 15fed ganri...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 20:44, 5 Mehefin 2008

Llyfr blwyddnodau am y blynyddoedd 1224 i 1544 yw'r Annála Connacht ("Cronicl/Blwyddnodau Connacht"). Maent yn gasgliad o lawysgrif a ysgrifennwyd yn y 15fed ganrif a'r 16eg ganrif gan o leiaf dri ysgrifwr, i gyd yn aelodau o'r Clan Ó Duibhgeannáin, mae'n debyg.

Mae'r rhannau agoriadol, sy'n cychwyn gyda marw'r Brenin Cathal Crobdearg Ua Conchobair o Connacht, yn arbennig o fanwl ac yn rhoi hanes Connacht yn y 13eg ganrif a hanner cyntaf y ganrif olynol, yn arbennig yn achos hanes y teuluoedd Ó Conchobhair a Burke. Ond mae'r hanes yn llai manwl a mwy mympwyol am yr 16eg ganrif. Er hynny, mae'n ddogfen bwysig iawn sy'n cofnodi llawer o ddigwyddiadau mewn cyfnod a fyddai fel arall yn gymharol dywyll yn hanes talaith Connacht ac Iwerddon yn gyffredinol.

Ymddengys fod Annála Connacht ac Annála Clonmacnoise yn deillio o ffynhonnell gyffredin neu o leiaf yn perthyn i'w gilydd o ran ei hanes testunol.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

=Dolenni allanol

  Eginyn erthygl sydd uchod am Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.