Y Rhyfel Byd Cyntaf: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
Gwledydd Prydain, yn dilyn y Rhyfel |
||
Llinell 129:
Ymhlith beirdd Saesneg y rhyfel, roedd [[Rupert Brooke]], [[Wilfred Owen]], [[Siegfried Sassoon]] ac [[Isaac Rosenberg]]. Yr enwocaf o'r nofelau a ysbrydolwyd gan y rhyfel oedd nofel [[Almaeneg]] gan [[Erich Maria Remarque]], ''Im Westen nichts Neues'' ("Dim byd newydd yn y gorllewin"), a gyhoeddwyd fel llyfr yn gynnar yn 1929 ac a oedd eisoes wedi ei throsi i 26 o ieithoedd erbyn diwedd y flwyddyn honno.
==
Yn Rwsia, arweiniodd yr holl golledion, a'r holl filitariaeth at syrffed at ryfel, sosialaeth ac yn y diwedd gwelwyd twf y Chwyldro Bolsieficiaidd, gyda'i ddylanwad ar lawer o wledydd gan gynnwys Cymru.<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig''; Gwasg Prifysgol Cymru.</ref> Er i Lloyd-George ddod yn arwr Prydeinig, rhannwyd y Blaid Rhyddfrydol oherwydd ei safiad dros orfodaeth filwrol, a'r holl golledion a dirywiodd y blaid wedi'r Rhyfel. Cafwyd streic gan y glowyr yng Ngorffennaf 1915 a arweiniodd at wladoli'r diwydiant ac unwyd yr [[undebau llafur]] mewn modd nas gwelwyd cyn hynny. Oherwydd fod llynges Prydain mor ddibynol ar lo fel tanwydd, roedd sicrhau cydweithrediad y glowyr yn hanfodol. Gwelwyd menywod yn parhau mewn swyddi - a chafodd hyn ddylanwad aruthrol ar agweddau cymdeithasol yr [[20g]]. Tyfodd y Blaid Lafur a oedd am ddefnyddio'r wladwriaeth i ddileu tlodi a diweithdra. Yn dilyn y cytundebau heddwch, gwelwyd nifer o wledydd bychan canolbarth a dwyrain Ewrop yn derbyn pwerau ychwanegol - ffactor a gafodd gryn effaith ar dwf cenedlaetholdeb Cymru, yr Alban ac Iwerddon.
== Llyfryddiaeth ==
|