Rhyfel Cartref Lloegr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu - Cymru
Llinell 21:
=== Y Rhyfel Cartref yng Nghymru ===
 
Roedd boneddigion Cymry ar y dechrau'n cefnogi plaid y Brenin, er bod ambell eithriad megis [[John Jones, Maesygarnedd]], brawd-yng-nghyfraith [[Oliver Cromwell]], a'r llenor [[Morgan Llwyd]]. Ni fu unrhyw frwydrau ar raddfa fawr ar dir Cymru yn ystod y Rhyfel Cartref Cyntaf, ond roedd cyfran helaeth o fyddin y brenin yn rhai o'r brwydrau yn Lloegr yn Gymry; gelwid Cymru yn "fagwrfa gwŷr traed y brenin".
 
Oherwydd fod arfordir Cymru mor agos i'r Iwerddon, roedd y boneddigion Cymreig yn fwy na pharod i dalu'r dreth olngaulongau er mwyn cryfhau'r llynges. RoeddentRoeddynt hefyd yn gefnogol i ymdrechion yr Archesgob Laud i ddyrchafu rhwysg Eglwys Loegr. Ond erbyn diwedd y [[1630au]] newidiodd hyn:
*roedd yr Alban yn gwrthwynebu polisiau Siarl
*credid bod y brenin yn codi byddin o Babyddion yn Iwerddon ac
*yng Nghymru cododd yr amheuaeth ynghylch bwriadau pendefigion Paybyddol megis Somerset.
 
Yn Nhachwedd 1640 trwy gyfrwng y Senedd Hir, chwalwyd y fiwrocraiaeth frenhinol a diddymwyd Llys yr Uchel Gomisiwn (sef prif arf Laud) ac ymosodwyd ar yr esgobion a'u ''Llyfr Gweddi Gyffredin''. ynYn ystod cyfnod y Llys Hir, yr unig Gymro a oedd yn deyrngar i'r brenin oedd [[Herbert Price]] (fl. 1615 - 1663), pendefig a noddwr llenyddiaeth o'r hen [[Sir Frycheiniog]] ac a gynrychiolai Aberhonddu. Er hyn, pan ddechreuodd y rhyfel yn Awst 1642, dim ond 5 o ASau o gymruGymru oedd yn driw i'r Senedd, a dim ond Sirsiroedd BenfroPenfro (oherwydd masnach) a Wrecsam. (oherwydd pwer [[Thomas Myddelton]]). Erbyn 1646 roedd [[Castell Rhaglan]] wedi cwympo ac roedd lluoedd y Senedd yn rheoli'r cyfan o Dde Cymru. Ymestynodd grym Myddelton dros y Gogledd ac erbyn Mawrth 1647 ildiwyd [[Castell Harlech]] i'r Seneddwyr a daeth y Rhyfel Cartref Cyntaf i ben
 
Yn Sir Benfro y taniwyd gwreichionen gyntaf yr Ail Ryfel Cartref, yn dilyn codi trethi trwm, gan y Seneddwyr a chyda marwolaeth Essex, gwanhawyd dylanwad y Seneddwyr yng Nghymru. Datganodd John Poyer (llywiawdwr [[Castell Penfro]]) a Rice Powell (llywiawdwr [[Castell Dinbych-y-pysgod]]) eu cefnogaeth i'r brenin. Martsiodd y ddau i Gaerdydd ac ymuno gyda Laugharne (a oedd wedi newid ei got). Ar 8 Mai 1648 trechwyd Laugharne a'i griw brenhinol ym mrwydr bwysicaf y Rhyfel cartref yng Nghymru: [[Brwydr Sain Ffagan]]. Ysgubodd Cromwell drwy Dde Cymru ac i fyny i'r Gogledd; ym Môn yr ymladdwyd y frwydr olaf.
 
Arwyddwyd warant marwolaeth y brenin gan rai Cymry:
Llinell 36:
*[[Thomas Wogan]], aelod Bwrdeisdrefi Sir Aberteifi.
 
 
== Cysylltiadau allanol ==
* [http://www.spartacus.schoolnet.co.uk/STUwalesCW.htm Cymru a'r Rhyfel Cartref (yn Saesneg)]