Teulu Salusbury: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Thomas Salusbury (ganed 1564)
Llinell 4:
Syr [[John Salusbury]] (marw 1289) mae'n debyg oedd y cyntaf; ef a sefydlodd [[Brodordy Dinbych]], [[priordy]] [[Urdd y Carmeliaid|Carmelaidd]] yn nhref [[Dinbych]]. Sefydlodd nifer o'i ddisgynyddion deuluoedd dylanwadol, uchelwrol a Chymreig iawn megis [[Lleweni]] (Dinbych) a'r [[Y Rug|Rug]] ([[Corwen]]).
 
Syr [[John Salusbury (m. 1566)]] neu 'Siôn Salsbri o Leweni' (marw yn 1566) oedd gŵr cyntaf [[Catrin o Ferain]]. Dienyddiwyd eu mab hynaf [[Thomas Salusbury (ganed 1564)|Thomas]] (1564 - 1586) am fod yn rhan yng Nghynllwyn Babington i ddiorseddu [[Elisabeth I, brenhines Lloegr]] a choroni [[Mari II, brenhines Lloegr a'r Alban|Mari, Brenhines yr Alban]]. Roedd mab arall [[John Salisbury (mab Catrin)|John]] (1567 - 1612) yn fardd Saesneg cynhyrchiol ac yn perthyn i gylch o ddeallusion a oedd yn cynnwys Syr [[Walter Raleigh]].
 
Roedd un o gyfieithwyr y Beibl, sef [[William Salesbury]] hefyd yn perthyn i'r teulu yn ogystal a'r gramadegydd [[Henry Salusbury]]. Aelod arall o'r teulu oedd y llenor a gwleidydd Syr [[Thomas Salusbury]] (1612-1643) o'r Waun.